Iawndal o o leia' £430,000 i gyn-blisman Heddlu Gwent

  • Cyhoeddwyd
Mike Baillon
Disgrifiad o’r llun,
Fe ffilmiwyd Mike Baillon wrth iddo fynd at gerbyd Robert Whatley, gan dorri ffenestr y gyrrwr er mwyn cael gafael ar y goriadau.

Mae'r cyn-blisman Mike Baillon, yr oedd fideo ohono'n arestio pensiynwr ar y we, wedi cael iawndal o leiaf £430,000.

Roedd y dyn 42 oed o Dorfaen wedi rhoi'r gorau i'w swydd yn Awst 2012 wedi iddo gael ei symud o fod yn swyddog traffig am fod yr heddlu'n teimlo "nad oedd ei benderfyniadau'n iawn".

Yn 2009 roedd wedi cael ei ffilmio yn torri ffenest gyrrwr car 71 oed oedd wedi methu stopio ac yn gyrru heb wregys diogelwch.

Fe gafodd y fideo ei ryddhau ar y we a'i wylio gan 30 miliwn ar You Tube.

Fe benderfynodd y llys yn 2013 nad oedd wedi gwneud dim o'i le a'i fod wedi cael ei roi mewn sefyllfa lle nad oedd dewis ond rhoi'r gorau i'w swydd.

Mewn tribiwnlys yng Nghaerdydd fe ddyfarnwyd y dylai dderbyn tâl pensiwn o £430,000 a rhwng £10,000 a 20,000 am gyflog coll, ond fe fydd y ffigwr terfynol yn cael ei gadarnhau yr wythnos nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent eu bod yn siomedig.

"Cosb am feiddio cwyno"

Ym mis Medi 2009 roedd Mr Baillon ar fin gorffen ei shifft pan sylwodd ar yrrwr Range Rover Du oedd ddim yn gwisgo'i wregys diogelwch.

Fe gafodd y gyrrwr, Robert Whatley, 71 oed ar y pryd, ei stopio a'i holi gan Mr Baillon cyn iddo yrru i ffwrdd heb rybudd.

Dilynodd Mr Baillon y Range Rover am 17 munud drwy gefn gwlad Sir Fynwy cyn i Whatley stopio'n sydyn am fod dyfais wedi creu pynctiar yn ei deiars.

Torrodd Mr Baillon y ffenestr ar ochr y gyrrwr mewn ymgais i gael gafael ar y goriadau.

Fe ddangoswyd fideo o'r digwyddiad yn achos llys Whatley lle y'i cafwyd yn euog o fethu â stopio, methu â gwisgo gwregys diogelwch a throseddau eraill.

Disgrifiad o’r llun,
Fe dderbyniodd Robert Whatley iawndal gan Heddlu Gwent ar ôl y digwyddiad.

Fe ddaeth Whatley ag achos sifil yn erbyn Heddlu Gwent yn 2012, gan setlo gyda iawndal o £65,000 a chostau.

Mewn ymchwiliad safonau proffesiynol a throseddol, fe benderfynwyd bod Nad oedd Mr Baillon wedi gwneud unrhywbeth o'i le, ac fe ailddechreuodd fel swyddog traffig yn Hydref 2011 wedi iddo lwyddo mewn cwrs gyrru gloywi pellach.

Fe ysgrifennodd gwyn yn erbyn Heddlu Gwent am ei danseilio yn ei rôl, materion yn ymwneud â bygwth tystion a methiant dilyn trefn gwynion ffurfiol.

Yn fuan wedi iddo gyflwyno'r gwyn fe gafodd ei symud i'r uned heddlua lleol - "cosb", meddal tribiwnlys cyflogaeth yn 2013, am "feiddio ysgrifennu cwynion a gwneud datgeliadau gwarchodedig i swyddogion uwch".

Gwaith coed

Mi ddechreuodd Mr Baillon ei fusnes gwaith coed ers gadael yr heddlu a dywedodd fod ymateb yr heddlu'n siomedig.

"Yn anffodus, mi gollodd fy ngwraig fabi yn fuan wedi i'r stori ddod yn gyhoeddus yn y wasg, a dwi'n teimlo fod hyn o ganlyniad i straen," meddai Mr Baillon.

"Rydych chi'n darged hawdd fel heddwas, rydych chi'n dibynnu ar eich uwch-swyddogion i fod yn gefnogol i chi gan eich bod chi'n unigolyn - dydych chi ddim yn cael siarad â'r wasg.

"Rydych chi'n dibynnu ar y mudiad i wneud hynny drosoch chi ac os ydi'r mudiad yn methu â gwneud hynny'n iawn, maen nhw'n eich siomi chi."

Dywedodd ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei danseilio.

"... roeddwn i angen gwneud y mudiad yn ymwybodol o sut delion nhw â'r digwyddiad ac effaith hynny arna i ac ar fy nheulu.

"Doedd dim byd o'i le gyda fy ngyrru a doedd dim byd o'i le gyda fy iechyd meddwl, roedd yn berwi lawr i'r ffaith syml fy mod wedi gwneud cwyn yn erbyn uwch swyddogion a doedden nhw ddim yn hapus."

Lefel uchel

Roedd Mr Baillon wedi gweithio am 13 o flynyddoedd gyda'r heddlu cyn ymddiswyddo.

Roedd wedi'i hyfforddi i lefel uchel ac yn hynod o ymroddedig i'r swydd, meddai, "ond doedd hynny'n cyfri dim yn y diwedd".

Dywedodd ei fod yn siomedig gyda Ffederasiwn yr Heddlu ddylai fod wedi'i gefnogi yn erbyn uwch swyddogion.

Mae llefarydd ar ran y ffederasiwn wedi dweud bod "Mr Baillon wedi derbyn cefnogaeth lawn Ffederasiwn yr Heddlu trwy gydol yr achos camymddwyn yn ei erbyn ac fe gafwyd y penderfyniad nad oedd wedi gwneud dim byd o'i le.

"Fe dderbyniodd gyngor cyfreithiol pellach ... cyn iddo gael cynrychiolydd cyfreithiol ei hun."