Colegau yn rhybuddio am doriadau i gyrsiau

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr
Disgrifiad o’r llun,
Mae colegau yn wynebu cynnydd o £6 miliwn yn eu costau a gostyngiad o £5 miliwn yn eu hincwm

Mae colegau addysg bellach yng Nghymru yn dweud y bydd rhaid iddyn nhw leihau nifer y cyrsiau oherwydd toriadau i'w cyllideb gan Lywodraeth Cymru.

Ar gyfartaledd, bydd colegau yn delio gyda thoriadau o 1.5% eleni ac 1.6% pellach y flwyddyn nesaf.

Mewn termau real, bydd hynny'n golygu lleihad i golegau o £5 miliwn dros y ddwy flynedd.

Mae colegau wedi cytuno i roi codiad cyflog o 1% i staff, fydd yn costio £6 miliwn y flwyddyn.

Byddan nhw'n cwrdd â Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf i drafod beth fydd rhaid ei gynnig i fyfyrwyr, ond mae Colegau Cymru, y corff sy'n cynrychioli'r sector addysg bellach yma wedi dweud wrth BBC Cymru bod toriadau i gyrsiau yn anochel.

Mae llywodraeth Cymru wedi addo amddiffyn y gyllideb i fyfyrwyr 16-18 mewn colegau.

O ganlyniad, mae rhai colegau sydd â chanran uchel o fyfyrwyr ifanc wedi gweld eu cyllidebau yn aros ar lefel debyg.

Ond mae'r rheiny sydd â chyfran uchel o fyfyrwyr sy'n oedolion yn gweld toriadau sylweddol i'w cyllid.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 75% o fyfyrwyr mewn colegau addysg bellach yng Nghymru dros 19 oed.