Canolfan Ymwelwyr 'Byd Mari Jones' yn dod i'r Bala
- Published
Bydd hanes merch ifanc gerddodd filltiroedd dros fynyddoedd Cymru i brynu Beibl Cymraeg gan Thomas Charles, i'w gweld mewn canolfan ymwelwyr newydd yn y Bala.
Cerddodd Mari Jones o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala ac yn ôl, taith o dros 40 milltir, i gael ei Beibl yn 1800 - taith y mae nifer yn ei wneud fel pererindod erbyn hyn.
Mae Cymdeithas y Beibl wedi cyhoeddi y bydd Eglwys Beuno Sant, yn Llanycil ger y Bala yn ganolbwynt i'r ganolfan ymwelwyr fydd yn cael ei alw'n 'Byd Mari Jones'.
Mi fydd y ganolfan yn dangos dylanwad y Beibl ar fywyd Cymru ac ar draws y byd.
Prynodd y gymdeithas yr eglwys yn 2007 ac ers hynny maent wedi bod yn gweithio i sefydlu'r ganolfan.
Bydd ardal picnic yn cael ei greu, mynediad i lwybrau cerdded cyfagos, a maes parcio.
Mae'r gwaith i atgyweirio tu fewn yr adeilad wedi dechrau yn barod.
'Syfrdanol'
Dywedodd Maer Bala, Dorothi Evans: "Mae hyn yn newyddion gwych ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ganolfan yn cael ei chwblhau.
"Mae stori Mari Jones a Thomas Charles yn un cyfarwydd i ni, ond mi fydd pawb yn cael y cyfle i'w chlywed, dysgu amdanynt, a hanes y gymdeithas. Bydd pobl wedi eu syfrdanu."
Ar ôl iddi arbed ei harian am chwe blynedd, yn 16 oed, cerddodd Mari Jones o Lanfihangel-y-Pennant dros y mynyddoedd i'r Bala er mwyn prynu Beibl gan y Parchedig Thomas Charles.
Fe wnaeth hynny ysbrydoli Thomas Charles i fynd ati i sefydlu Cymdeithas y Beibl.
Y gobaith yw y bydd yr adeilad yn cael ei agor yn yr Hydref i gofio 200 mlynedd ers ei farwolaeth.
Ychwanegodd Mary Thomas, ysgrifennydd Cymdeithas y Beibl yn y Bala ac awdur llyfr am daith Mari Jones: "Hwn oedd yr eglwys lle bu Thomas Charles briodi a lle cafodd ei gladdu.
"Mae nifer o bobl yn cerdded taith Mari Jones fel pererindod ac fel maent yn cerdded i mewn i'r Bala mae'n biti nad oes ganddynt le i ddathlu pen eu taith.
"Mi fydd y ganolfan yn berffaith i wneud hynny."
Straeon perthnasol
- Published
- 19 Ionawr 2007
- Published
- 29 Mehefin 2006