Ceidwadwyr Cymreig am newid treth stamp
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydden nhw'n cael gwared ar dreth stamp ar eiddo o dan £250,000, pe baen nhw mewn grym yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae'r dreth stamp - sydd werth 1% o werth eiddo rhwng £125,000 a £250,000 - yn y broses o gael ei ddatganoli.
Yn ôl y Ceidwadwyr, byddai'r polisi'n costio oddeutu £20 miliwn.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wrth BBC Cymru "bod hi'n freuddwyd gan y mwyafrif i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain."
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod cynnig y Ceidwadwyr yn debygol o gostio gormod i, a byddai rhaid gwneud arbedion i liniaru'r effaith.
'Arbed £1,600'
Fe ddywedodd y blaid bod 13,000 o gartrefi yn y grwp pris £125,000 - £250,000 wedi eu gwerthu yng Nghymru y llynedd.
£160,000 yw gwerth tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru, ac oddi ar hynny, byddai prynwr yn arbed £1,600.
Meddai'r Ceidwadwyr, cyhoeddi egwyddor y polisi maen nhw'n ei wneud heddiw, gyda mwy o fanylion ar y gweill yn eu maniffesto ar gyfer etholiad 2016.
Dyma'r blaid gyntaf i gyhoeddi cynlluniau polisi treth stamp yng Nghymru.
Yn ôl yr arweinydd: "Un o'r pethau'n sy'n creu'n rhwystr mwyaf ydi'r cwpwl o bunnoedd olaf yna mae pobl ei angen i sicrhau'r eiddo, ac mae'r dreth stamp yn un o'r pethau sy'n rhaid neidio drwyddo i sicrhau'r ddêl."
Dywedodd Mr Andrew RT Davies y byddai'r cynigion yn golygu bod y £1,600 yn "mynd yn ôl i'r prynwr".
Fe ychwanegodd: "Fe fyddai hynny'n sicrhau bod y ddêl yn cael ei selio ac yn y pen draw, yn caniatau i bobl wireddu'r freuddwyd honno o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain yng Nghymru."
Ar hyn o bryd, mae'r dreth stamp yn 0% ar gartref o dan £125,000, yn 1% rhwng £125,000 a £250,000, yna mae'n cynyddu i 3%. Rhwng £500,000 a £1 miliwn, mae'n cynyddu eto i 4%.
Meddai'r Ceidwadwyr, byddai eu polisi yn gweld y gyfradd yn codi o 0% i 3% am unrhyw gartref sy'n gwerthu am fwy na £250,000.
'Diffyg o £225m'
Dywedodd y llywodraeth bod cynnig y Ceidwadwyr yn rhy ddrud, ac yn debygol o gostio £25m y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Cyllid: "Byddai cael gwared ar dreth stamp ar eiddo werth hyd at £250,000 yn costio £25m y flwyddyn, yn y farchnad isel ddiweddar. Byddai hynny'n debygol o gostio mwy yn y dyfodol wrth i'r farchnad bigo i fyny.
"Os caiff hwn ei adio at y golled o tua £200m y flwyddyn o gynllun y Ceidwadwyr i dorri ceiniog o dreth incwm yna byddai llywodraeth Cymru yn wynebu diffyg o £225m.
"Mae hynny'n gofyn y cwestiwn, beth fyddai'n cael ei dorri i arbed y swm sylweddol yna?
"Fel llywodraeth gyfrifol rydyn ni wedi dechrau ymgynghori gyda'r diwydiant tai i gael eu sylwadau ar y ffordd orau i ddatblygu treth stamp yng Nghymru.
"Pan rydyn ni wedi datblygu a chostio ein cynlluniau byddwn yn cyhoeddi ein cynigion."