Wardiau'n cau oherwydd norofeirws yng Nghaerdydd a Phenarth
- Published
Mae wardiau wedi'u cau i ymwelwyr mewn dau ysbyty yn y de oherwydd achosion norofeirws.
yn Ysbyty Llandochau ger Penarth mae tair ward wedi eu cau ac mae Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd wedi cau rhan o ward.
Mae hyn wythnosau'n unig wedi i'r ddau ysbyty orfod cau wardiau i ymwelwyr oherwydd achosion blaenorol.
Roedd yn rhaid i Ysbyty Treforys, Abertawe ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gau wardiau fis diwethaf hefyd.
Dywedodd Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Atal a Rheoli Heintiau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fod yr haint yn beryglus iawn i gleifion.
"Mae achosion chwydu a dolur rhydd yn y gymuned, gyda rhai achosion wedi'u cadarnhau yn yr ysbytai," meddai.
"Mae'n andros o anodd i atal lledaeniad y norofeirws unwaith mae yn yr ysbyty, felly rydym yn gofyn i'r cyhoedd i'n cefnogi drwy beidio ag ymweld onibai ei fod yn gwbl hanfodol."