Beth mae'r Eisteddfod yn gynnig i rai rhwng 10-15 oed?
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dechrau cael ymateb i brosiect ymchwil newydd, sy'n edrych ar yr hyn sydd gan y Brifwyl i'w gynnig i blant a phobl ifanc rhwng 10 a 15 oed.
Bydd y casgliadau'n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.
Bwriad yr ymchwil yw ystyried beth sydd eisoes ar gael, trafod beth sy'n apelio at yr oedran a sut y gellir darparu hyn yn yr Eisteddfod.
Mae'r prosiect yn dilyn ymchwil tebyg a gafodd ei gynnal y llynedd, a oedd yn edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn yr Eisteddfod.
Arweiniodd yr ymchwil hwnnw at ddatblygu prosiectau newydd, gan gynnwys gwelliannau i Faes B a'r maes ieuenctid.
Yn ogystal, cafodd Caffi Maes B ei gyflwyno am y tro cynta' yn Ninbych y llynedd - cynllun a drefnwyd ar y cyd gyda'r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Ciwdod - gan sicrhau fod rhai o weithgareddau Maes B yn gallu cael eu cynnal ar y Maes ei hun.
'Oedran cymhleth ac eang'
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts:
"Bu'r prosiect diweddar yn edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn arbennig o ddefnyddiol, felly ein bwriad yw defnyddio dull tebyg i ystyried yr oedran 10-15. Yn sicr, mae hwn yn gwmpas oedran cymhleth ac eang ac yn gyfnod sy'n pontio rhwng bod yn blentyn ac yn berson ifanc.
"Mae'n bwysig ein bod yn ystyried anghenion yr oedran hwn yn ofalus.
"Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws, cyfarfodydd ac yn rhedeg holiadur ar-lein dros yr wythnosau nesaf. Byddwn hefyd yn holi criwiau o bobl ifanc, yn ogystal â rhieni a rhai o'n partneriaid allweddol sydd â phrofiad o weithio gyda'r oedran hwn.
"Bydd ein grwpiau ffocws yn canolbwyntio ar y rheini sydd eisoes yn mynychu'r Eisteddfod, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i ddyheadau ein hymwelwyr selog. Rydym hefyd yn cysylltu gyda'r rheini sy'n aros ar y maes carafanau yn yr Eisteddfod.
"Ond mae croeso i unrhyw un ymateb drwy'r holiadur ar-lein ac fe fyddwn yn defnyddio pob ymateb ac adborth wrth lunio'r adroddiad a chynllunio ar gyfer y dyfodol."
Gellir llenwi'r holiadur ar-lein ar gyfer rhieni ar y safle yma neu ar wefan yr Eisteddfod ei hun.
Bydd yr holiadur ar gael tan Fawrth 21, ac mae'n bosib y bydd rhai o'r syniadau i'w gweld ar waith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin yn Llanelli ym mis Awst eleni.