Cwmni Global Radio yn gwerthu gorsafoedd radio masnachol
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwmni cyfryngau rhyngwladol Communicorp Group Limited wedi cyhoeddi eu bwriad i brynu wyth o orsafoedd radio rhanbarthol gan Global Radio yn y DU.
Yn eu plith mae'r ddwy orsaf yng Nghymru - Capital South Wales a Real Radio North Wales.
Fe ddaw'r gwerthiant yn dilyn ymchwiliad gan Gomisiwn Cystadlu'r DU, ond fe fydd angen cymeradwyo'r cais i brynu'r gorsafoedd gan yr awdurdodau perthnasol yn Iwerddon (gan mai cwmni Gwyddelig yw Communicorp).
Dyfarnodd y Comisiwn Cystadlu fod Global Radio wedi torri rheolau yn ymwneud â chystadleuaeth wedi iddyn nhw brynu Real a Smooth Limited ym Mehefin 2012.
O ganlyniad roedd rhaid i Global Radio werthu naill ai Real neu Capital yn y de, yn ogystal â naill ai Real neu Heart yn y gogledd.
'Gorau o'r ddau fyd'
Os fydd y pryniant yn digwydd bydd Real Radio yn y gogledd yn cael ei ailfrandio fel Heart o dan drwydded i Communicorp.
Bydd gorsafoedd Gold yn ne a gogledd Cymru yn cael eu hailfrandio fel Smooth Radio.
Dywedodd prif weithredwr Global, Stephen Miron: "Rydym yn falch iawn o fod wedi medru cytuno gyda Communicorp mor gyflym.
"Mae hyn yn newyddion da i wrandawyr a hysbysebwyr."
Ychwanegodd prif weithredwr Communicorp, Gervaise Slowey: "Mae'n glir bod y farchnad hysbysebu yn y DU yn ffynnu a bydd y newid yma'n ein gwneud y pedwerydd cwmni radio mwyaf yn y DU.
"Mae'r cytundeb trwyddedu brandio sydd gennym gyda Global ar gyfer gorsafoedd Heart, Capital a Smooth yn caniatáu i ni gyfuno grym brand cenedlaethol gyda phresenoldeb lleol, ac rydym yn teimlo fod y model yma yn darparu'r gorau o'r ddau fyd i'n gwrandawyr a'n cwsmeriaid."
Mae rhwng 60 a 70 o bobl yn gweithio i Global Radio yng Nghymru.
Yn y de mae tua 25 o'r rhain yn gweithio ym Mae Caerdydd i Capital FM a Gold - gorsaf AM yw Gold felly nid yw'n cael ei effeithio gan y dyfarniad - a rhyw 20 arall yn Radyr i Real Radio.
Mae'r tua 20 o staff sy'n gweithio i'r cwmni yn y gogledd i gyd yn gweithio yn Wrecsam, i Heart North West and Wales a Gold.
Straeon perthnasol
- 17 Mawrth 2011
- 13 Rhagfyr 2013
- 15 Tachwedd 2013