Cyflwyno cynllun gwerth £850m am lagŵn ym Mae Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cais cynllunio gwerth £850 miliwn ym Mae Abertawe yn cael ei rhoi i Arolygaeth Gynllunio yn ddiweddarach. Y nod ydy defnyddio pwer llanw a thrai yn y Bae trwy osod 16 o drybeini allan yn y môr.
Os y caiff ei gymeradwyo mi allai'r cynllun fod y cyntaf o'i fath yn y byd.
Byddai tua chwe milltir o lwybr cerdded hefyd yn cael ei greu ar gyfer y cyhoedd. Bydd y waliau newydd o amgylch y lagŵn yn ymestyn o ddociau Abertawe at gampws newydd Prifysgol Abertawe.
Y bwriad hefyd ydy y bydd trydan yn cael ei gysylltu gyda'r Grid cenedlaethol erbyn 2018.
Creu swyddi
Heblaw am gynhyrchu trydan mae'r rhai tu ôl i'r fenter hefyd eisiau creu ardal chwaraeon, canolfan ymwelwyr a chreu busnes magu bwyd môr.
Maen nhw'n honni y gallai'r cynllun greu hyd at ddwy fil o swyddi.
Mae Gareth Clubb o Gyfeillion y Ddaear Cymru wedi rhoi croeso gofalus i'r cynllun ond eisiau gweld y manylion.
"Os ydyn nhw yn cadw ar y meini prawf caeth amgylcheddol mae lagŵn yn medru chwarae rôl allweddol wrth adeiladu dyfodol carbon isel a darparu trydan glan i filoedd o dai."
"Gyda morlin enfawr mae yna botensial ym Mhrydain i ddatblygu mwy o gynlluniau fel hyn - yn ogystal â ynni adnewyddadwy eraill."
Mae'r Aelod Cynulliad lleol Peter Black wedi dweud y gallai'r lagŵn ddod a hwb sylweddol i'r economi.
"Y gobaith yw y bydd y prosiect yma yn creu nifer uchel o swyddi lleol ac y byddai yn creu miliynau o bunnau yn yr ardal.
Effaith ar natur
"Nawr bod y cais wedi ei wneud yn gyhoeddus, mi allith y gwaith craffu ar y prosiect ddechrau. Mae'n rhaid i gynllun mor enfawr fod yn iawn.
"Mae yna dal nifer o bryderon amgylcheddol sydd angen eu datrys. Ond os y bydd modd gwneud hynny, yna dim ond newyddion da allith y cyhoeddiad yma fod ar gyfer ardal Bae Abertawe."
Yn ôl Sean Christian o'r RSPB byddai cynllun fel hyn yn cael llai o effaith ar fywyd gwyllt nag argae.
Ond mae'n dweud y bydd angen ystyried unrhyw niwed ar natur yn fanwl a gweld oes modd darganfod datrysiad.
Y Gweinidog Ynni yn San Steffan, Ed Davey fydd yn penderfynu os y bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013