Heddlu yn ymchwilio yn Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gareth Williams
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r dirprwy brifathro yn y ddalfa

Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliadau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyfaddefodd y dirprwy brifathro iddo guddio camerâu i ffilmio plant mewn toiled yn rhywle arall.

Mae Gareth Williams, 47 oed, yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron.

Yn y cyfamser, mae disgyblion Ysgol Glantaf a'u rhieni wedi cael gwybod fod Heddlu De Cymru wedi cael mynediad llawn i'r ysgol.

Cafodd llythyr yn esbonio'r datblygiadau diweddaraf ei anfon atyn nhw ddydd Iau, chwe diwrnod ar ôl i'r dirprwy bledio'n euog i dri chyhuddiad o voyeuriaeth.

'Pryder enfawr'

Yn y llythyr mae'r prifathro Alun Davies yn dweud fod hyn yn "destun pryder enfawr i bawb sy'n ymwneud a'r ysgol".

Hefyd mae'r llythyr yn dweud: "Rwy'n gwybod fod sôn y gellid cyflwyno cyhuddiadau pellach a chlywodd y llys fod hyn yn bosibilirwydd.

"Ond gan fod ymchwiliad yr heddlu'n parhau a bod camau cyfreithiol yn weithredol, alla i ddim gwneud sylw ynglŷn â'r hyn allai'r cyhuddiadau fod, os bydd rhai o gwbl."

Yr wythnos ddiwethaf clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod Williams wedi defnyddio camera i ffilmio pump o blant yn defnyddio'r toiled.

Daeth yr heddlu o hyd i gamera, ffeiliau fideo a lluniau digidol .

Ni chafodd y troseddau hynny eu cyflawni ar dir yr ysgol.

Mae'r llys wedi cael gwybod fod yr heddlu'n parhau i ymchwilio ac y bydd Williams yn cael ei gyfweld eto.