Cyswllt trenau o Abertawe i Heathrow
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Network Rail wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu gwasanaeth trenau uniongyrchol o Abertawe i faes awyr Heathrow.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i deithwyr newid trenau naill ai yn Reading neu orsaf Paddington yn Llundain er mwyn cyrraedd yno.
Byddai'r newid yn golygu bod y daith o Abertawe yn cael ei gwtogi i dair awr a chwe munud - bron awr yn llai na'r daith bresennol.
Os bydd y cynlluniau gwerth £500 miliwn yn cael eu cymeradwyo, mae disgwyl i'r gwasanaeth newydd ddechrau gweithredu erbyn 2021.
Mae cyllid ar gyfer y gwasanaeth eisoes wedi cael ei gyhoeddi gan lywodraeth y DU.
'Hwb i'r economi'
Dywedodd Patrick Hallgate o gwmni Network Rail: "Bydd ein cynlluniau am gyswllt rheilffordd newydd o Heathrow i'r gorllewin yn gwella'r cysylltiad yn ddramatig ac yn rhoi hwb i'r economi leol.
"Mae'n bwysig ein bod yn bachu ar y cyfle i drafod y cynllun fel y gallwn sicrhau bod y buddsoddiad mewn gwella'r rheilffordd yn dod â'r budd mwyaf."
Byddai'r cynllun yn gweld y gwasanaeth yn dilyn y llwybr presennol hyd at Reading, ond yna bydd yn troi ar gyffordd newydd rhwng gorsafoedd Langley ac Iver cyn mynd trwy dwnnel 5km i gyrraedd terfynell 5 yn Heathrow.
Bydd Network Rail yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni, a'r gobaith yw dechrau'r gwaith erbyn diwedd 2016.
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng de Cymru a Heathrow wedi cael ei drafod ers tro, a'r llynedd roedd y buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn rhan o gyhoeddiad ar ddyfodol y meysydd awyr gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn San Steffan ar y pryd, Justine Greening.
Fe ddaw'r cyhoeddiad ddwy flynedd ar ôl cadarnhad y bydd y lein rhwng Abertawe a Llundain yn cael ei drydaneiddio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynlluniau i gyflymu'r cysylltiad rhwng Cymru a Heathrow i'w croesawu, ac yn arbennig o bwysig i'r gymuned fusnes."
Straeon perthnasol
- 31 Hydref 2013
- 7 Mai 2013
- 13 Mawrth 2013
- 6 Mawrth 2013
- 9 Tachwedd 2012
- 16 Gorffennaf 2012