Llwyddo er gwaetha'r anawsterau

  • Cyhoeddwyd
Anna Lawson
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Ms Lawson yn dysgu drwy wrando ar y tapiau oedd wedi cael eu recordio gan bobl leol

Mae dynes ddall o Lanelltyd yng Ngwynedd wedi llwyddo i gael ei phenodi i swydd athro ym Mhrifysgol Leeds.

Y gred yw mai Anna Lawson yw'r ddynes gyntaf ym Mhrydain i gyflawni'r gamp.

Dywedodd Ms Lawson bod y cymorth mae hi wedi ei gael gan y gymuned leol wedi bod yn hollbwysig i'w gyrfa academaidd.

"Roedd o'n hollol anhygoel. Fe wnaeth yr holl gymuned fy helpu fi a fy chwaer Jane..."

Mae Jane hefyd yn dioddef o'r un cyflwr prin, sy'n achosi dirywiad yn y llygaid.

Fe wnaeth pobl Dolgellau roi helpu drwy drosglwyddo llyfrau i dapiau er mwyn i Ms Lawson gael gwrando arnyn nhw.

"Mae'n rhaid bod rhyw 20 o bobl wedi helpu gyda'r tapio - roedd rhai yn ei drin fel swydd lawn amser!

"Ffrindiau o'r gymuned oedden nhw, a ffrindiau i ffrindiau. Fe wnaeth Merched y Wawr helpu hefyd."

Mae Ms Lawson wedi derbyn rhyw 50 o gardiau gan gymuned Dolgellau yn ei llongyfarch ers iddi gael gwybod ei bod hi wedi cael y swydd ym mis Hydref.

Ond mae hi'n credu bod angen gwneud mwy ar gyfer rhoi cefnogaeth i bobl sydd ag anawsterau i lwyddo mewn addysg.

"Rwy'n teimlo'n gryf y dylai bod systemau mewn lle sy'n sicrhau bod addysg - yn ogystal ag iechyd, trafnidiaeth a gwasanaethau eraill - ar gael ar gyfer plant ac oedolion anabl heb fod angen i gymunedau neidio mewn i helpu.

"Yn lwcus i mi fe wnaeth y gymdeithas yn Nolgellau gan defnyddio'r gyfraith i geisio sicrhau hynny yw pwrpas fy ngwaith o hyn allan."

Mae Ms Lawson yn arbenigo ar gyfraith sy'n ymwneud ag anableddau, ac mae'n awyddus i weld mwy o degwch i bobl o fewn y byd addysg.

"Mae'n bwnc rhyngwladol sydd â pherthnasedd byd eang."