Gwahardd Angharad Anwyl rhag bod yn gyfarwyddwr
- Published
Mae perchennog gwesty yng Nghaernarfon wedi ei gwahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am dair blynedd am beidio talu digon o dreth.
Cafodd Angharad Anwyl, cyfarwyddwr cwmni Gwesty'r Castell oedd yn rhedeg y gwesty ar Y Maes yng Nghaernarfon, ei gwahardd am beidio talu'r Swyddfa Dreth a Chyngor Gwynedd.
Mae'r gwaharddiad yn sgil ymchwiliad y Gwasanaeth Methdalu.
Fe ddatgelodd yr ymchwiliad fod Gwesty'r Castell Cyf wedi dod i ben ar Chwefror 9 2012, gyda dyled o £146,000.
Ar y dyddiad hwnnw, roedd dyledion trethi busnes o £18,347 oedd yn dyddio'n ôl i 2010-11 a dyledion treth ar werth o o leiaf £50,444 yn dyddio'n ôl i Dachwedd 2010.
Dangosodd yr ymchwiliad bod y cwmni o Dachwedd 2010 ymlaen wedi talu £518,393 i wahanol gredydwyr ond doedd dim taliadau i Swyddfa Cyllid a Thollau EM ar gyfer treth ar werth.
Dywedodd y Pennaeth Ymchwiliadau Methdalu, Robert Clarke: "Mae dyletswydd ar gyfarwyddwyr cwmnïau i sicrhau bod busnesau yn cyflawni eu goblygiadau cyfreithiol, gan gynnwys talu treth."
Mae Angharad Anwyl, 65 oed, wedi cytuno na fydd hi'n gweithio fel cyfarwyddwr nac yn cymryd rôl rheoli o fewn cwmni cyfyngedig tan Chwefror 2017 heb ganiatâd y llys.