Claire Jarrett: dim dysgu am o leiaf ddwy flynedd
- Published
Mae athrawes oedd yn dysgu mewn ysgol gynradd yn Sir Caerffili wedi cael ei thynnu oddi ar y gofrestr dysgu am gyfnod o o leiaf ddwy flynedd.
Mi glywodd panel ymddygiad Cyngor Dysgu Cyffredinol Cymru fod Claire Jarrett, 46 oed, wedi codi plentyn pump oed gerfydd ei fraich a'i lusgo ar draws y llawr.
Digwyddodd hyn yn Ysgol Gynradd Aberbargoed.
Roedd hi hefyd wedi dodi ei law o dan gwpan ac wedi ei dynnu oddi ar ei feic.
Doedd y panel yng Nghaerdydd ddim yn credu fod yr hyn wnaeth hi yn cyfateb i fwlio'r plentyn.
Ond mi oedden nhw yn teimlo fod yna dystiolaeth o gamymddwyn.