Mwy o fyfyrwyr Cymru'n mynd i Loegr
- Cyhoeddwyd

Mae'r nifer o fyfyrwyr o Gymru sy'n dewis mynd i astudio yn Lloegr wedi cynyddu 20% ers 2010, yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Mae data UCAS hefyd yn dangos fod nifer y myfyrwyr wnaeth benderfynu aros yng Nghymru wedi gostwng bron i 10% dros yr un cyfnod.
Yn ôl y gwrthbleidiau, mae'r ffigyrau yn codi cwestiynau ynglŷn â doethineb polisi Llywodraeth Cymru o dalu'r rhan fwyaf o ffioedd dysgu myfyrwyr lle bynnag maen nhw'n penderfynu astudio.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n parhau i amddiffyn y polisi gan ddweud bod mwy o fyfyrwyr yn dod fewn i Gymru na sy'n gadael i astudio mewn llefydd eraill.
Mwy'n mynd i Loegr
Yn 2010 fe wnaeth 42,150 gais i astudio mewn prifysgol yn Lloegr. Mae rhaglen Sunday Politics Wales y BBC wedi darganfod fod y ffigwr cyffelyb ar gyfer 2013 yn 50,180 - cynnydd o 19%.
O'i gymharu, gwelwyd gostyngiad o 9.5% yn y nifer wnaeth geisiadau i astudio yng Nghymru, o 40,560 i 36,700.
Mae Llywodraeth Cymru'n talu am unrhyw ffioedd blynyddol sydd dros tua £3,500 drwy gyfrwng grant.
Gan fod llawer o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig bellach yn codi £9,000, mae'n golygu fod y llywodraeth yn talu rhyw £5,500 am bob myfyriwr sy'n penderfynu astudio yn Lloegr, yr Alban neu Gogledd Iwerddon.
Profiad myfyriwr
Fe wnaeth Jessica Taylor o Gaerdydd, fel llawer o bobl ifanc o Gymru, benderfynu mynd i Brifysgol Bryste i wneud ei gradd.
Dywedodd wrth Sunday Politics: "Cafodd llai o effaith ar fy mhenderfyniad oherwydd doedd dim ots os oeddwn i'n mynd i brifysgol yng Nghymru neu Lloegr, byddai'r ffioedd wedi bod yr un fath lle bynnag fyddwn i wedi mynd.
"Felly mi gymrodd yr elfen yna i ffwrdd, oedd yn golygu fy mod i'n gallu dewis prifysgol ar sail teilyngdod.
"Os fyddwn i'n gorfod talu mwy yn y dyfodol - pan rwy'n talu'r ffioedd dysgu yn ôl - drwy fynd i Loegr, rwy'n credu y byddwn i wedi ystyried prifysgol yng Nghymru."
Mae llefarydd yr wrthblaid ar addysg wedi disgrifio polisi Llywodraeth Cymru fel un "eithriadol".
'Elwa ar draul Cymru'
Gan siarad am y ffigyrau UCAS, dywedodd yr AC Ceidwadol Angela Burns: "Rwy'n meddwl i fy hun tybed os mai'r niwed i'r enw da rydym wedi bod yn ddioddef yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas ag addysg yw rhan o'r peth.
"Fe gafon ni frwydr anurddasol gyda'r sector addysg uwch, rhwng y cyn weinidog addysg a'r sector addysg... mae gennym ni bolisi talu ffioedd eithriadol yma yng Nghymru sy'n galluogi llawer o brifysgolion yn Lloegr i elwa ar draul prifysgolion Cymru.
"Maen nhw'n derbyn arian, dyw prifysgolion Cymru ddim."
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y polisi.
'Polisi teg'
Meddai llefarydd ar eu rhan: "Mae ein polisi ffioedd myfyrwyr, yr un tecaf rydym erioed wedi ei gael yn ein tyb ni, yn cydnabod y dylai'r dewis o sefydliad ddibynnu ar sefyllfa'r unigolyn, nid cost y ffioedd.
"Tra mae'r polisi yn cynnig rhyddid dewis i'n myfyrwyr, mae Cymru'n le gwych i astudio ac fe fyddwn i'n awgrymu fod sefydliadau yng Nghymru yn annog myfyrwyr i ystyried rhinweddau addysg uwch yng Nghymru.
"Mae'n bwysig cofio bod yr adroddiad SAC (Swyddfa Archwilio Cymru) diweddar yn dweud fod Cymru yn fewnforiwr net o fyfyrwyr. Oherwydd hynny bydd y sector addysg uwch yng Nghymru yn derbyn llawer mwy o incwm o Loegr na mae HEFCW yn talu i sefydliadau yn Lloegr drwy ffurf y grant ffioedd dysgu.
"Yn ychwanegol ac oherwydd y diwygiadau bydd incwm i addysg uwch yn parhau i gynyddu i'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- 21 Ionawr 2014
- 21 Tachwedd 2013
- 4 Medi 2013
- 3 Gorffennaf 2013