Tai heb drydan
- Cyhoeddwyd
Fe fu hyd at 15,000 o gartrefi a busnesau heb gyflenwad trydan am gyfnodau dydd Sadwrn oherwydd difrod gan wyntoedd cryfion.
Cafodd gwyntoedd o 80 mya eu cofnodi yn y Mwmbwls gyda'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd oren, "byddwch yn barod."
Roedd rhannau o'r canolbarth gan gynnwys Aberhonddu heb drydan am gyfnod byr yn ystod y prynhawn.
Dywed Western Power Distribution fod hyd at 15,000 o gwsmeriaid yn y canolbarth heb drydan am gyfnod byr.
Ond erbyn hyn mae cyflenwadau wedi eu hadfer i drefi Aberhonddu, Llandrindod a Rhaeadr Gwy.
Bu bron i 550 o dai yn ardal Abertawe heb drydan oherwydd problemau yn ymwneud â'r tywydd.
Am 6.30yh, roedd 976 o dai yn y canolbarth, gorllewin a de Cymru yn parhau heb drydan.
Ar hyn o bryd mae yna rybudd llifogydd mewn grym yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf.
Daw'r rhybuddion wedi wythnos o dywydd garw mewn rhannau o'r de a'r canolbarth.
'Tonnau mawr'
Yn ôl Scottish Power, doedd yna ddim adroddiadau gan eu cwsmeriaid o broblemau yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion hefyd achosi problemau ar y ffyrdd.
Bu'r M4 ar gau i'r ddau gyfeiraid ar ôl i lori fynd ar ei hochr ar Bont Llansawel,rhwng Port Talbot ac Abertawe.
Hefyd bu cyfyngiadau ar Bont Hafren,, Pont Britannia a Phont Cleddau oherwydd gwyntoedd cryfion.
Dywedodd Owain Wyn Evans, cyflwynydd tywydd BBC Cymru: "Unwaith eto, mae disgwyl tywydd garw dros y penwythnos a hynny wrth i system o bwysedd isel ein cyrraedd o'r gorllewin.
"Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn, yn enwedig ger y glannau ac ar dir uwch.
"Ac wrth gwrs, fe fydd y gwyntoedd yn arwain at donnau mawr - felly mae llifogydd arfordirol yn bosib unwaith eto.
"Ond wrth i'r Swyddfa Dywydd rybuddio bod hyd at 40mm o law yn bosib, mae disgwyl llifogydd yn bellach o'r glannau hefyd wrth i lefel yr afonydd codi.
"Yn anffodus, mae'r jet lif, gwyntoedd cryfion sy'n teithio o amgylch y byd tua saith milltir o'r ddaear, yn parhau i aros mewn un lle. Ac mae'r gwyntoedd yma yn symud system ar ôl system o bwysedd isel tuag at Gymru a gweddill Prydain."
Mae disgwyl i'r glaw trwm ddiflanu o arfordir y dwyrain erbyn pnawn Sadwrn, ond fe fydd yna gawodydd cyson yn dilyn meddai'r Swyddfa Dywydd.
Rhybuddion
Mae rhybuddion y Swyddfa Dywydd mewn grym yn siroedd Penfro, Caerfyrddin, Abertawe, Pen-y-bont, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.
Gallai gwyntoedd o hyd at 70mya effeithio ar yr arfordir a rhai 80mya effeithio ar fannau agored.
Mae rhybudd melyn, hynny yw "bod yn wyliadwrus," mewn grym yn siroedd Caerffili, Casnewydd, Mynwy, Torfaen, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Bydd glaw trwm hefyd yn debygol o effeithio ar yr holl siroedd yma yn ogystal â Cheredigion a Phowys.
Canslo
Mae'r rhybuddion mewn grym tan nos Sadwrn.
Wrth i nifer o gefnogwyr rygbi Cymru deithio i Ddulyn ar gyfer y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, does dim disgwyl i deithiau fferi gael eu heffeithio yn ystod y dydd ddydd Gwener.
Trwsio rheilffordd
Er gwaethaf y rhagolygon, mae Network Rail yn gobeithio ail agor rhan o reilffordd Cambria ddydd Llun wedi i lanw uchel ei difrodi ym mis Ionawr.
Mae'r cwmni wedi bod yn gweithio i drwsio'r lein rhwng Y Bermo a Machynlleth cyn gynted â phosib.
Mae'n debyg i gost derfynol gosod cledrau newydd ac ailadeiladu waliau ar y rheilffordd gyrraedd tua £10m.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Network Rail Mark Langman fod ail-agor y lein yn newyddion pwysig i bobl yr ardal.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2014
- 6 Chwefror 2014