Penfro'n parhau i ymgynghori ar addysg
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Sir Benfro wedi pleidleisio i barhau gydag ymgynghoriad i ddyfodol ysgolion uwchradd yn ardal Hwlffordd a Tŷ Ddewi.
Mae 'na ddwy ysgol uwchradd yn Hwlffordd - Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward.
Mae 'na un ysgol uwchradd yn Nhŷ Ddewi sef Ysgol Dewi Sant.
Clywodd y cabinet bod safon yr addysg a nifer y llefydd gwag yn Ysgol Tasker Milward yn achos pryder.
Mae adeiladau'r ysgol yma, ac Ysgol Syr Thomas Picton, mewn cyflwr gwael.
Mae 'na opsiynau i newid pethau drwy uno'r ddwy ysgol, gyda'r posibilrwydd o greu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd i ddiwallu'r galw cynyddol am addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.
Canol Ionawr, fe gytunodd aelodau'r cabinet i gefnogi cynllun strategol i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir dros y tair blynedd nesaf, ond ni chafwyd cytundeb ffurfiol i godi ysgol gyfun Gymraeg arall yn y sir.
Roedd Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi awgrymu y dylai cangen o Ysgol y Preseli gael ei sefydlu yn ne Sir Benfro fel ateb tymor byr tan fod ysgol newydd yn cael ei chodi.
Ar hyn o bryd mae disgyblion de'r sir yn gorfod teithio i Grymych os ydyn nhw am gael eu haddysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Straeon perthnasol
- 13 Ionawr 2014
- 13 Ionawr 2014