Mis i fynd tan newidiadau Radio Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Radio Cymru wedi cadarnhau y bydd amserlen newydd yr orsaf yn dechrau ar ddydd Llun, Mawrth 10.
Bryd hynny fe fydd Dylan Jones yn aros ar yr awyr am ddwy awr yn dilyn y Post Cyntaf. Dywedodd Mr Jones: "Mae yna gynnwrf sylweddol ymysg y timau sy'n gyfrifol am y Post Cyntaf a fy rhaglen newydd i, ac rydyn ni i gyd yn gweithio'n galed yn paratoi ar gyfer y drefn newydd o Fawrth y 10fed.
"Yn bersonol rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gael clywed gan gymaint o wrandawyr ag sy'n bosibl, ac i fod yn rhan o batrwm dyddiol pobl ymhob rhan o Gymru hyd at ddeg o'r gloch bob bore."
Rhwng 10 a 12 wedyn bydd rhaglen newydd Shân Cothi, fydd yn cael ei ddilyn gan ddwy raglen amrywiol fydd yn para hanner awr yr un, fel a ganlyn:
Y slot hanner dydd
- Llun: Gari Wyn
Cyfle wythnosol i'r gŵr busnes a'r cyn-athro holi ei westeion, a bwrw'i fol am bynciau sy'n agos at ei galon. Mae mentergarwch a moduro ill dau yn ddiddordebau mawr gan Gari, a bydd y ddau yn sicr o chwarae rhan yn y rhaglen.
- Mawrth: Stiwdio
Y diweddaraf o fyd y celfyddydau, yng nghwmni Nia Roberts.
- Mercher: John Walter
Rhaglen danllyd a phrofoclyd, lle bydd John Walter Jones yn holi'r cwestiynau mawr am Gymru, y Cymry a'r byd Cymreig.
- Iau: Caryl
Pobol ddifyr yn trafod pob math o bynciau - a chyfle i glywed barn Caryl am y byd a'i bethau.
- Gwener: O'r Bae
Vaughan Roderick yn fyw o Fae Caerdydd yn rhoi cilolwg ar hynt a helynt yr wythnos wleidyddol.
Yn siarad am ei raglen newydd, dywedodd Gari Wyn: "Cyfuniad o bynciau llosg yn ymwneud â busnes a mentergarwch, hanes ac arwyddocâd digwyddiadau hanesyddol fydd ar y rhaglen. Dwi'n teimlo, os oedd gen i genhadaeth erioed, mai hybu mentergarwch ymysg Cymry Cymraeg ydy honno."
Y slot 12.30pm
- Llun: Straeon Bob Lliw;
- Mawrth: Y Talwrn;
- Mercher: Galwad Cynnar / Byd Iolo;
- Iau: Sesiwn Fach;
- Gwener: rhaglenni ysgafn, comedïau a gemau panel.
Rhwng 1 a 2 bydd Taro'r Post, gyda Garry Owen, ac yna bydd rhaglen newydd Andrew Thomas o Aberteifi - neu Tommo, i ddefnyddio ei enw darlledu.
Mae Tommo'n ddarlledwr profiadol wedi treulio blynyddoedd yn cyflwyno rhaglen ar Radio Sir Gar.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae'r paratoi wedi dechrau o ddifri nawr a sai'n gallu aros tan Fawrth y 10fed i ddod a llond y prynhawn o hwyl a cherddoriaeth i wrandawyr Radio Cymru!
"Rwy wedi cael nifer fawr o negeseuon yn dymuno'n dda i fi a'r rhaglen newydd yn barod, ac rwy' jyst yn edrych ymlaen nawr i ddod i nabod llond lle o bobl newydd!"
Bydd Tudur Owen yn parhau i lenwi'r slot 2 tan 5 ar ddydd Gwener.
Rhwng 5 a 6 bydd Dewi Llwyd a'i westai yn trafod pynciau llosg y dydd. Bydd rhaglenni nodwedd a dogfennau i'w clywed rhwng 6.15 a 7 ac yna tair awr o C2.
Geraint Lloyd fydd yn parhau i orffen y darllediadau am y dydd.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni'r orsaf: "All Radio Cymru ddim bod yn bopeth i bawb ond fe wnewn ni'n gorau glas i gynnig rhywbeth i bawb. Yn wrandawyr hen a newydd, chi fydd wrth galon y gwasanaeth."
Straeon perthnasol
- 21 Tachwedd 2013
- 18 Tachwedd 2013
- 9 Awst 2013
- 22 Mai 2013