Tirlithriad rhwng Machynlleth a Chaersws
- Published
Bydd oedi'n effeithio ar wasanaethau trên rhwng Machynlleth a Chaersws.
Mae Trenau Arriva Cymru'n dweud fod tirlithriad wedi effeithio ar y llinellau.
Maen nhw'n dweud hefyd y gallai oedi effeithio ar wasanaethau yn fyr rybudd.
Eisoes mae bysys yn rhedeg gwasanaethau rhwng Pwllheli a Bermo gan fod y rheilffordd wedi ei niweidio gan y tywydd drwg diweddar.