Llofruddiaeth Abergele: Dedfrydu dau
- Cyhoeddwyd

Mae dyn yn euog o lofruddio tad i ddau tu allan i dafarn Pen-y-bont yn Abergele wedi cael dedfryd oes.
Bydd rhaid i Anthony Smith, 40 oed o Bensarn, dreulio o leiaf 16 blynedd dan glo am lofruddio Sam Blackledge wedi ffrae y llynedd.
Cafodd ei bartner Tracy Jones, 47 oed o Abergele, ei charcharu am dair blynedd a thri mis am ddynladdiad.
Yn Llys y Goron Caernarfon roedd y ddau'n euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder oherwydd iddyn nhw geisio perswadio tystion i guddio'r ffaith mai ymosodiad oedd y rheswm am anafiadau Mr Blackledge.
Clywodd y llys fod Smith wedi taflu Mr Blackledge allan o'r dafarn cyn ei fwrw.
Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC fod dwrn yn cael ei daflu "mor ffyrnig" yn brin iawn.
Ychwanegodd fod Mr Blackledge mor feddw fel nad oedd yn fygythiad a dywedodd wrth Smith: "Nid hwn oedd y tro cyntaf i chi yn llythrennol daflu eich pwysau o gwmpas gan i chi ymddwyn mewn modd bygythiol yn y gorffennol."
Cafodd Mr Blackledge anafiadau mewnol yn ei ben a bu farw yn yr ysbyty yn Stoke 48 o oriau wedyn.
'Effaith drychinebus'
Wedi'r dedfrydau dywedodd datganiad ar ran teulu Mr Blackledge: "Rydym yn ddiolchgar i'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y llys a Chymorth i Ddioddefwyr am eu gwaith caled a'u cymorth yn ystod yr adeg anodd hon ac yn gwerthfawrogi eu hamynedd a'u dealltwriaeth cyn ac yn ystod y gwrandawiad.
"Ni fydd y dedfrydau yn dod â Sam yn ôl ond rydym yn falch bod cyfiawnder wedi bod.
"Rydym yn gobeithio y bydd y dedfrydau yn gwneud i bobl sylweddoli effaith drychinebus ymddygiad treisgar ac y bydd yn rhwystro teuluoedd eraill rhag profi'r hyn yr ydym ni yn mynd drwyddo.
"Roedd Sam yn gyfeillgar a hawddgar ac mae ei deulu a'i ffrindiau yn teimlo colled fawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2013