Ymchwilio i farwolaeth a gêm yfed

  • Cyhoeddwyd
Stephen Brooks
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r dyn wedi cael ei enwi'n lleol fel Stephen Brooks

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn 29 oed o Dredelerch yng Nghaerdydd.

Mae'r dyn wedi cael ei enwi'n lleol fel Stephen Brooks ac nid yw'r farwolaeth wedi cael ei hesbonio hyd yn hyn.

Bu farw'r dyn yn oriau man fore Sul Chwefror 9.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod ymchwilio i gysylltiad posib gyda'r gêm yfed 'neknominate', lle mae pobl yn yfed diodydd cryf cyn rhoi lluniau o'u hunain ar wefannau cymdeithasol.

Mae'r heddlu yn aros am ganlyniadau archwiliad post mortem, ond maen nhw wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn gwybodaeth am y gêm fel rhan o'r ymchwiliad.

Cafodd y gêm ei chysylltu â marwolaeth Jonny Byrne, 19, o Sir Carlow yn Iwerddon, yn ddiweddar.

Y gred yw ei fod wedi cymryd rhan yn y gêm, cyn neidio i mewn i afon ar Chwefror 1.

Rhybudd

Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad: "Rydym yn ymchwilio i farwolaeth sydyn ac anesboniadwy dyn 29 oed o Dredelerch, Caerdydd, yn ystod oriau man Chwefror 9.

"Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'w farwolaeth ar ran y crwner wedi derbyn gwybodaeth yn ymwneud â'r gêm honedig 'neknominate'.

"Mae'r ymchwiliad yn parhau ac fe fydd archwiliad post mortem yn digwydd maes o law."

Yn y cyfamser, mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru wedi rhybuddio aelodau am y peryglon posib o gymryd rhan yn y gêm.