Cyffuriau: naw o ardal Caerdydd a Chasnewydd o flaen llys
- Cyhoeddwyd

Mae naw diffynnydd o ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd wedi bod o flaen llys yn wynebu cyhuddiadau o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Y naw yw Mohammed Sajjad, 36 oed, Umar Butt, 24 oed, Khalid Yassen, 28 oed, Paul Anthony Thomas, 40 oed, Tracey Marie Spriggs, 37 oed, y pump o Gaerdydd, ac Imtiaz Ali, 33 oed, Waseem Mohammed Riaz, 26 oed, Mohammed Aftab Boota, 25 oed, a Shazia Tahir Ahmed 35 oed o Gasnewydd.
Yr adran gwrth-gyffuriau Tarian gydlynodd yr ymgyrch.
Clywodd y llys fod cerbydau wedi eu stopio ar draffordd yr M5.
Miliynau o bunnau
Roedd y naw yn y llys wedi i gyflenwad o'r cyffur heroin allai fod yn werth miliynau o bunnau gael ei ddarganfod.
Cafodd swm sylweddol o arian ei ddarganfod hefyd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lian Penhale: "Rydyn ni'n credu bod yr arestio wedi amharu ar droseddu llawer o ddelwyr.
"Mae cyffuriau'n bla ar gymunedau ond mae ein neges yn syml. Nid ydyn ni'n godde' hyn.
"Wrth fynd i'r afael â'r broblem a chyda chefnogaeth pobl leol fe fyddwn yn anelu at sicrhau cymunedau diogel."