Cyhuddo Craig Bellamy o ymddygiad treisgar

Craig Bellamy Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae gan Craig Bellamy tan 6pm nos Fawrth i ymateb i'r cyhuddiad

Mae'r pêl-droediwr Craig Bellamy yn wynebu cyhuddiad o ymddygiad treisgar gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi digwyddiad yn y gêm rhwng Abertawe a Chaerdydd ddydd Sadwrn.

Yn ystod ail hanner y gêm roedd hi'n ymddangos fel pe bai Bellamy wedi taro chwaraewr canol cae Abertawe - Jonathan De Guzman - gyda'i benelin.

Doedd y dyfarnwr Andre Marriner na'i swyddogion cynorthwyol ddim wedi gweld y digwyddiad.

Enillodd Abertawe o 3-0.

Dywedodd yr FA mewn datganiad: "Mae Craig Bellamy o glwb Caerdydd wedi cael ei gyhuddo gan yr FA o ymddygiad treisgar yn dilyn digwyddiad na welodd swyddogion y gêm ond a welwyd ar fideo."

Mae gan Bellamy tan 6:00pm ddydd Mawrth i ymateb i'r cyhuddiad.

Os bydd yn pledio'n euog fe allai gael gwaharddiad am dair gêm. Os yw'n pledio'n ddieuog ond yn colli'i achos fe allai'r gwaharddiad fod yn hwy.

Straeon perthnasol