Môn: treth cyngor 4.5% yn uwch a cholli 45 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Gallai trethdalwyr Ynys Môn wynebu biliau treth cyngor 4.5% yn uwch o fis Ebrill ymlaen wedi i bwyllgor gwaith y cyngor gefnogi'r cynnig.
Mae disgwyl y bydd angen colli 45 o swyddi wrth i'r awdurdod anelu at arbedion o tua £7m yn 2014-15.
I'r perwyl hwn, mae'r cyngor yn gobeithio y bydd hyn yn wirfoddol.
Ymhlith y toriadau posib mae cwtogi ar arian cylchoedd meithrin yr ynys.
Eleni cododd treth y cyngor 5% ac mae'r cynghorwyr yn gobeithio bydd cadw'r lefel yn is yn "ychydig o gysur" i'r trethdalwyr.
Mi fydd y cynigion gerbron y cyngor llawn ddydd Iau, Chwefror 27.
Petai'n cael ei fabwysiadu bydd bil Band D ar gyfartaledd yn £981.41 ac eithrio cyfraniadau at gyllidebau Heddlu Gogledd Cymru a'r cynghorau cymuned.
'Gwasanaethau'
Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir, Cynghorydd Ieuan Williams: "Bydd toriadau o'r math yma gyda ni am nifer o flynyddoedd ac yn effeithio ar y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau, trigolion yr ynys, ein cymunedau a staff y cyngor."
Ychwanegodd deilydd y portffolio cyllid, Cynghorydd Hywel Eifion Jones: "Roedd yn amlwg o'r ymatebion fod gan bobl bryderon am y cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor am ei fod yn uwch na chwyddiant.
"Rydym wedi gwrando ar eu pryderon a gwneud ein gorau i gadw treth y cyngor i lawr, a bydd cynnydd o 4.5% yn cyfateb i 81c ychwanegol yr wythnos ar gyfer eiddo Band D ar gyfartaledd.
"Bydd toriadau yn y gyllideb yn brathu'r flwyddyn nesaf ac felly mae'r pwyllgor gwaith wedi addo hefyd y bydd paratoi cyllideb 2015-16 yn dechrau ym mis Mawrth, gan sicrhau bod cynigion arbedion ar gyfer y dyfodol yn cael eu harchwilio'n drylwyr a bod ymgynghori mewn da bryd."
Beirniadu
Ers wythnosau mae cynigion y gyllideb wedi eu beirniadu.
Gallai toriadau posib' i gylchoedd meithrin olygu bod swyddi mewn perygl ac mae'r cyngor wedi bod yn cyfarfod â Mudiad Ysgolion Meithrin.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Cytunodd aelodau'r pwyllgor gwaith heddiw y dylai trafodaethau gyda mudiadau cyn-ysgol barhau er mwyn darganfod ateb fyddai'n canolbwyntio ar ddarpariaeth addysg effeithiol ac effeithlon.
"Bydd gostwng yr oed mynediad i ysgolion cynradd yn parhau ar yr agenda."
Straeon perthnasol
- 20 Ionawr 2014
- 9 Hydref 2013
- 16 Rhagfyr 2013
- 28 Ionawr 2014