Damwain Llaneurgain: Teyrnged gan deulu Duncan Monteith

  • Cyhoeddwyd
Duncan MonteithFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Duncan Monteith, 27, bu farw mewn damwain ar yr A55 yn Llaneurgain

Mae teulu dyn o Lansanffraid Glan Conwy wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn "gymdeithasgar" a "chariadus."

Bu farw Duncan Monteith, 27 oed, yn Ysbyty Iarlles Caer ar ddydd Gwener, Chwefror 7, yn dilyn damwain ar yr A55 yn Llaneurgain.

Roedd Monteith yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Rydal ym Mae Colwyn ac yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo.

Aeth ymlaen i astudio Cymdeithaseg m Mhrifysgol Caerhirfryn.

Roedd ar fin gorffen cwrs ôl-radd M.A. mewn Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Caer.

Trychineb

Cyhoeddodd ei dad, David, ei lys-dad, Peter, ei frawd Alasdair, a'i chwaer yng nghyfraith, Lucy, deyrnged ar y cyd gan ddweud bod "marwolaeth Duncan yn drychineb i ni gyd.

"Roedd yn edrych ymlaen i orffen ei waith coleg a dechrau gyrfa ym myd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

"Roedd yn gymdeithasgar a chariadus. Roedd mor agored a thwym galon ac yn agosau at bobl yn sydyn iawn. Dyna pam roedd ganddo gymaint o ffrindiau ac mae eu negeseuon a'u cefnogaeth wedi ein helpu yn y cyfnod anodd yma."

Bu Duncan yn byw yng Nghaeredin am sbel, ond pan ddarganfuwyd bod ei fam, Melanie, yn dioddef o gancr, symudodd yn ôl adref er mwyn helpu gofalu amdani.

Roedd yn hoff o ffotograffiaeth a chwarae'r gitâr, yn enwedig cerddoriaeth y "blues" ac Eric Clapton. Weithiau byddai'n chwarae gyda'r band, Purple Fox, yn Llandudno.

Yn ddiweddar, roedd wedi dechrau cymryd diddordeb mewn paragleidio.

"Roedd ganddo awydd am antur", meddai ei dad.

Mi fydd yr angladd yn cael ei gynnal ym mhentref Glan Conwy.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol