Darganfod gweithwyr anghyfreithlon mewn bwyty
- Cyhoeddwyd
Mae bwyty ym Mhort Talbot yn wynebu cosb sifil ar ôl i swyddogion y Swyddfa Gartref ddarganfod fod staff yn gweithio yno yn anghyfreithlon.
Mi aeth y swyddogion i fwyty Shah Tandoori er mwyn siarad gyda'r gweithwyr a darganfod os oedd ganddyn nhw hawl i weithio ym Mhrydain neu beidio.
Cafodd tri o ddynion o Fangladesh eu harestio. Roedd visa dau o'r dynion, oedd yn 55 a 44 oed wedi dod i ben a'r dyn arall 39 oed wedi dod i'r wlad yn anghyfreithlon.
Mae'r tri wedi eu cadw yn y ddalfa ac mi fyddan nhw yn gorfod gadael Prydain.
Cafodd y bwyty rybudd y gallen nhw wynebu cosb ariannol o hyd at £30,000.
Bydd yn rhaid iddyn nhw dalu'r arian oni bai eu bod nhw'n medru profi eu bod nhw wedi dilyn y camau cywir i wirio hawl eu staff i weithio yno.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol