Cyhoeddi cynllun cofeb Cymry Fflandrys
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi'r cynllun ar gyfer cofeb newydd i gofio'r Cymry frwydrodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Fe fydd y gofeb yn cael ei hadeiladu ym mhentref Langemark yng Ngwlad Belg.
Pedair o feini gleision Pennant o chwarel Craig yr Hesg ym Mhontypridd fydd yn creu'r gromlech ar waelod y gofeb, a bydd cerflun efydd ar lun draig ar ei phen.
Daw'r gofeb wedi tair blynedd o ymgyrchu gan bwyllgorau yng Nghymru ac yn Fflandrys. Mae'r ymgyrch wedi codi dros £100,000 erbyn hyn.
Pedwar dyluniad
Fe gafodd Scuplture Cymru bedwar dyluniad i'w hystyried, a Lee Odishow o Ddinbych y Pysgod ydy'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r dyn 31 oed yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin, ac mae o rwan yn mentora myfyrwyr yno.
Cyrhaeddodd Lee rownd derfynol Gwobr Gerflunio Genedlaethol Broomhill yn 2011, ac mae wedi dangos ei waith yn nifer o arddangosfeydd Sculpture Cymru.
Yn 2013, cafodd ei ddewis i arddangos ei waith ym Mhrosiect Medal Cymdeithas Gelf Prydain yn Llundain.
'Symbol Cymru'
Wrth drafod ei gynllun buddugol, dywedodd Lee: "Y ddraig goch yw symbol Cymru, a'r gobaith yw y bydd fy nghynllun ar gyfer y gofeb yn Fflandrys yn adlewyrchu hyn.
"Dw i'n fwriadol wedi cadw at lun y ddraig wreiddiol ar y faner, er mwyn i bawb ei hadnabod pan maen nhw'n dod i weld y safle."
Meddai Carwyn Jones, aeth i weld safle'r gofeb fis Medi y llynedd: "Rwy'n falch o gael cyhoeddi cynllun buddugol Lee Odishow, fydd yn deyrnged barhaol i'r Cymry fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Gan mai hon fydd y gofeb genedlaethol gyntaf y tu allan i Gymru, mae'n addas mai meini Cymreig, a draig goch, falch fydd y cerflun."
Mae Peter Jones o bwyllgor ymgyrch cofeb Cymry Fflandrys wedi diolch i bawb roddodd gymorth i'r ymgyrch, gan ychwanegu bod y gromlech ar waelod y gofeb erbyn hyn wedi ei chwblhau.
Straeon perthnasol
- 28 Hydref 2013
- 18 Medi 2013
- 11 Gorffennaf 2013
- 12 Chwefror 2013