Ail wampio'r Vetch

  • Cyhoeddwyd
VetchFfynhonnell y llun, Gwen Griffiths
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r rhandiroedd wedi bod ar safle'r Vetch ers i'r stadiwm gael ei ddymchwel yn 2011

Mae cynlluniau wedi cael eu cynnig i ail-wampio safle hen gartre clwb pêl-droed Abertawe, cae'r Vetch.

Fe gafodd y Vetch ei dymchwel yn 2011 - chwe mlynedd wedi i'r elyrch symud i Stadiwm Liberty - mewn ymgais i ddenu datblygwr i'r safle.

Ond ni lwyddodd hynny ac felly fe gafodd y safle ei dirlunio gyda rhandiroedd yn cael eu cynnig i bobl y ddinas, dan gynllun 'Vetch Veg'.

Mae'r cynllun newydd yn cynnwys tai gwarchod, cartref gofal neu fflatiau ac adnodd cymunedol i'w rannu.

Yn y cynllun, fe fydd 40 o dai teras yn cael eu hadeiladu ac fe fydd cynllun y rhandiroedd yn cael ei ymestyn.

Fe fyddai ardal chwarae agored i blant, perllan gymunedol a chae o flodau gwyllt lle'r oedd canol cae'r hen stadiwm.

Fe allai canolfan gymunedol gael ei hychwanegu o bosib yn hwyrach ymlaen.

Yn ôl Nick Bradley, sydd yng nghabinet adfywio cyngor Abertawe: "Pwrpas y cynllun hwn yw cynnig glasbrint ar gyfer datblygiad y safle yn y dyfodol fydd yn y gynaliadwy yn y tymor hir, yn dderbyniol i drigolion lleol ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygwyr posib."

"Ers dymchwel hen gae'r Vetch, mae'r safle wedi gwyrddu'n sylweddol, ac mae cynllun y 'Vetch Veg' yn benodol wedi bod yn hwb go iawn i'r gymuned nad oes neb am ei golli."

"Mae'r cynllun newydd yn canolbwyntio ar ddyluniad cynaliadwy fydd yn gweithio i bawb."

Disgrifiad o’r llun,
Roedd y Vetch yn gartre i glwb pêl-droed Abertawe o 1912 hyd at 2005.

"O fod yn gartref i glwb pêl-droed lleol y ddinas, mae'r cynllun yn anelu at ddefnyddio'r Vetch i greu hanes cymuned o fath newydd a theimlad o berthyn fydd yn para am genedlaethau i ddod."

Fe fydd y cynlluniau'n cael eu trafod gan gabinet cyngor Abertawe ac yna bydd ymgynghoriad os caiff ei gefnogi.

Roedd y Vetch yn gartre i'r elyrch o 1912 hyd at eu gêm olaf yn 2005, pan afaelodd cefnogwyr mewn darnau o'r glaswellt neu gymryd seddi fel rhywbeth i'w gofio.

Bu'r stadiwm, oedd yn gallu dal 10,000 o bobl, yn dawel am sbel ac fe gafodd ei rhoi ar y farchnad yn wreiddiol yn niwedd 2009 gyda'r bwriad o droi'r tir yn gartrefi dwy, tair a phedair llofft, gyda chanolfan gymuned a lle chwarae.

Ond fe gafodd y dirwasgiad economaidd ei feio am ddiffyg diddordeb gan ddatblygwyr.

Yna yn 2011, fe dderbyniodd cyngor Abertawe gymhorthdal o £700,000 i ddymchwel y stadiwm a gwneud y safle'n wastad er mwyn ceisio denu mwy o ddiddordeb, ond fe fethodd â gwneud hynny.

Tan rwan, mae'r ardal wedi parhau'n un wedi'i dirlunio gyda chynllun y 'Vetch Veg' yn rhan ohono.