Gwahardd Bellamy am dair gêm
- Cyhoeddwyd

Mae'r pêl-droediwr Craig Bellamy wedi cael ei wahardd am dair gêm gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl cyfadde cyhuddiad o ymddygiad treisgar yn y gêm rhwng Abertawe a Chaerdydd ddydd Sadwrn.
Yn ystod ail hanner y gêm roedd hi'n ymddangos fel pe bai Bellamy wedi taro chwaraewr canol cae Abertawe - Jonathan De Guzman - gyda'i benelin.
Doedd y dyfarnwr Andre Marriner na'i swyddogion cynorthwyol ddim wedi gweld y digwyddiad.
Enillodd Abertawe o 3-0.
Dywedodd yr FA mewn datganiad: "Bydd Craig Bellamy o glwb Caerdydd yn cael ei wahardd am dair gêm - gan ddechrau'n syth - ar ôl derbyn cyhuddiad o ymddygiad treisgar.
"Ni welwyd y digwyddiad gan y dyfarnwr na'i gynorthwywyr."
Mae hynny'n golygu na fydd Bellamy ar gael ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn Aston Villa yn yr Uwchgynghrair nos Fawrth.
Bydd Bellamy hefyd yn methu'r gêm yng Nghwpan yr FA yn erbyn Wigan ddydd Sadwrn a'r gîm Uwchgynghrair yn erbyn Hull yr wythnos ganlynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2014