Parlwr godro: Cyflwyno deiseb

  • Cyhoeddwyd
parlwr godro
Disgrifiad o’r llun,
Mae ambell barlwr godro mawr eisoes yn bodoli yng Nghymru

Fe fydd mudiad dros warchod anifeiliaid yn cyflwyno deiseb i Lywodraeth y Cynulliad ddydd Mercher yn annog newid yn y polisi cynllunio sy'n ymwneud â ffermydd godro.

Eisoes mae'r World Society for the Protection of Animals (WPSA) wedi sicrhau adolygiad barnwrol o un o benderfyniadau'r gweinidog cynllunio Carl Sargeant.

Fe wnaeth Mr Sargeant gymeradwyo cais am barlwr godro anferth yn Nhre'r-llai ger y Trallwng ym mis Hydref y llynedd.

Roedd y llywodraeth wedi cynnal ymchwiliad i ystyried a ddylai'r cais gael ei gefnogi ar ôl i Gyngor Powys ei wrthod yn wreiddiol.

Ond cafodd y cais ei roi o'r neilltu wrth i WPSA sicrhau'r adolygiad ym mis Ionawr eleni.

Nid hwnnw fyddai'r parlwr godro enfawr cyntaf yng Nghymru, ac mae deiseb WPSA yn trafod yr egwyddor yn hytrach nag un achos penodol.

'Elw tymor byr'

Ond nawr mae'r mudiad yn cyflwyno deiseb ar fater ehangach, sef i geisio sicrhau "nad yw ffermydd llaeth enfawr dan do yn cael eu creu er mwyn elw yn y tymor byr, ac o bosib ar draul ffermydd llai".

Pwysleisiodd y mudiad eu bod yn defnyddio achos Tre'r-llai fel esiampl yn unig, ond maen nhw hefyd yn nodi bod Polisi Cynllunio Cymru yn "...cydnabod y bydd achosion lle bydd buddion economaidd yn gryfach nag ystyriaethau amgylcheddol a chymdeithasol", a dyna'r rhan o'r polisi y maen nhw'n awyddus i'w newid.

Aeth WPSA ymlaen i ddweud: "Rydym yn credu bod gan ffermydd llaeth enfawr mwy yn gyffredin â ffatrïoedd diwydiannol o safbwynt llygredd a charthffrydiau masnachol na gyda ffermydd llaeth traddodiadol, ac mae'r dogfennau cynllunio presennol yn annigonol i ddelio gyda cheisiadau o'r fath.

"Mae'r ffaith fod y Gweinidog yn fodlon cymeradwyo adeilad o'r fath y drws nesaf i ysgol ac yng nghanol pentref bychan yn bryderus iawn i ni."

Bydd deiseb gan WPSA yn cael ei chyflwyno i'r Senedd ddydd Mercher am 12:50pm, ac yna fe fyddan nhw'n cael gwrandawiad a, 15 munud gyda'r Pwyllgor Deisebau er mwyn dadlau eu hachos.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tan i'r her yn yr Uchel Lys i benderfyniad apêl gweinidogion Cymru ar fferm Tre'r-llai gael ei hystyried nid yw Llywodraeth Cymru yn medru trafod y penderfyniad nag unrhyw faterion sy'n codi ohono."