AS yn feirniadol o asesiadau gwaith
- Cyhoeddwyd

Mae aelod seneddol o Gymru wedi beirniadu gwaith Atos - y cwmni sy'n asesu os yw pobl yn ddigon abl i weithio neu beidio - mewn dadl yn San Steffan.
Dywedodd Mark Williams - AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros Geredigion: "Rwy'n bryderus nad yw Atos efallai yn gofyn y cwestiynau cywir."
Aeth ymlaen i ddweud bod Cyngor ar Bopeth yn honni fod dau draean o asesiadau Atos â "lefel cymedrol o wallau" a bod 40% â "lefel uchel o wallau".
Ychwanegodd Mr Williams fod ei swyddfa etholaethol wedi derbyn llu o alwadau gan drigolion sydd wedi methu asesiadau Atos, gyda'r cwmni yn dweud wrthyn nhw eu bod "yn gallu gweithio".
Roedd y trigolion wedyn wedi gorfod mynd drwy apêl, ac wedi ennill.
Angen dealltwriaeth well
Gofynnodd Mr Williams i'r gweinidog: "Pam bod y barnwyr mewn apeliadau - sydd â'r un wybodaeth feddygol ag oedd gan asesydd Atos - yn dod i gasgliadau sydd mor gwbl wahanol?
"Fy mhryder yw bod yr asesiadau 'gallu i weithio' presennol ddim yn addas i'w pwrpas.
"Dyw'r 'gallu i weithio' ddim yn unig yn ymwneud â salwch gweledol, ond hefyd y rhai sy'n diodde' o salwch anweledig."
Ychwanegodd bod angen dealltwriaeth well o drafferthion iechyd meddwl ac awtistiaeth, er enghraifft.
Wrth ymateb i Mr Williams, dywedodd y Gweinidog Anabledd, Mike Penning: "Rwy'n derbyn yn ddiamod fod camgymeriadau wedi eu gwneud, ac rwy'n cytuno na ddylai nifer o achosion fod wedi mynd i apêl."
Croesawodd Mr Penning gyhoeddi adolygiad Litchfield - y pedwerydd adolygiad hyd yma o'r Asesiadau Gallu i Weithio - a dywedodd wrth Mr Williams y byddai argymhellion yr adolygiad yn cael eu gweithredu.
Dywedodd hefyd fod y llywodraeth wedi trafod gydag Atos yr angen i wneud mwy o waith.
"Rydym wedi bod yn cael pethau'n anghywir mewn rhai achosion felly rydym wedi sicrhau bod yr asesiadau yn fwy llym, ond mae hynny wedi arwain at yr asesiadau'n cymryd mwy o amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2013