Mathew Rees yn ymarfer eto wedi triniaeth canser
- Cyhoeddwyd

Mae apten y Gleision, Matthew Rees yn cael dychwelyd i hyfforddi yn llawn amser wedi triniaeth am ganser.
Nid yw bachwr Cymru wedi chwarae ers mis Hydref oherwydd triniaeth am ganser y ceilliau.
Mae Rees wedi cael gwybod gan arbenigwyr nad oes angen triniaeth bellach arno.
"Dyma'r newyddion roeddwn i am ei glywed," meddai.
"Nawr bod dim problem galla i ganolbwyntio ar fy ffitrwydd a gobeithio chwarae fy rhan i'r Gleision.
"Mae pwysau mawr wedi diflannu.
"Dwi wedi cael fy syfrdanu oherwydd yr holl negeseuon gan y byd rygbi a chefnogaeth wych ffrindiau, teulu, cyd-chwaraewyr a staff y Gleision ac URC drwy gydol fy nhriniaeth.
"Mae wedi golygu cymaint i mi."
Llewod
Cafodd Rees, ymunodd â'r Gleision o'r Scarlets yn yr haf, driniaeth yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.
Chwaraeodd y bachwr 33 oed i Gymru am y tro cyntaf yn 2005 ac roedd yn nhîm y Llewod aeth i Dde Affrica yn 2009.
Roedd yn gapten Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011 ond methodd Gwpan y Byd yn ddiweddarach y flwyddyn honno gydag anaf.
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi'r Gleision, Phil Davies: "Rydym wrth ein boddau bod Matthew wedi dod trwy'r holl driniaeth.
"Mae wedi dangos gwydnwch rhyfeddol trwy'r amser caled.
"Does yna ddim llawer o bobl sydd wedi mynd trwy hyn a bod mor bositif a phenderfynol.
"Nawr rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn ymarfer ar y cae ac yn gwisgo crys y Gleision unwaith eto."
Straeon perthnasol
- 1 Tachwedd 2013
- 25 Ionawr 2013