Gwyntoedd cryf yn creu problemau
- Cyhoeddwyd

Mae gwyntoedd cryf wedi creu problemau wrth i bron 75 o ysgolion gau yng Nghymru.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd coch am wyntoedd cryfion dros rannau o Gymru ac roedd y gwynt yn 108 mya yn Aberdaron, 92 mya yn y Mwmbwls a 91 mya yng Nghapel Curig.
Roedd bron 75 o ysgolion wedi cau.
Mae'r rhybudd yn golygu y gallai gwyntoedd achosi difrod strwythurol, dymchwel coed ac arwain at golli cyflenwadau trydan.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y dylai pobl newid eu cynlluniau teithio yn ystod y cyfnod o stormydd.
Mae'r rhybudd coch yn cyfeirio at siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Powys, Ceredigion a Sir Benfro.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn wyneb rhagolwg y tywydd am y 24 awr nesa' siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol â Phrif Weinidog Cymru y bore 'ma.
"Dywedodd David Jones wrth Carwyn Jones y gallai ofyn am help y fyddin os oedd angen.
"Ond gan ei fod wedi bod yng nghyfarfod COBRA dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai'n gweithio gyda chydweithwyr cabinet er mwyn sicrhau y byddai adnoddau ar gael."
Graddfa 12
Dywedodd Gwylwyr y Glannau na ddylai neb fynd yn agos at y môr gan y gallai gwyntoedd gyrraedd graddfa 12.
Yng Ngwynedd cafodd Pont Britannia ei chau i'r ddau gyfeiriad a Chanolfan Feicio Coed y Brenin ger Trawsfynydd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Heddlu'r Gogledd brynhawn Mercher: "Mi fydd y tywydd yn gwaethygu am ychydig o oriau ac amodau gyrru'n anodd iawn.
"Ni ddylai neb deithio oni bai bod y daith yn hanfodol.
"Mae coed wedi syrthio ar nifer o ffyrdd."
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y dylai gyrwyr fod yn ofalus ac yn Sir Benfro mae rhai ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd, coed wedi cwympo neu adeiladau wedi eu difrodi.
Cafodd yr A487 ei chau am fod rhan o do garej wedi cwympo.
Cafodd Castell Arberth ei gau.
Yn y cyfamser, mae nifer o wasanaethau fferi wedi cael eu canslo wrth i'r Swyddfa Dywydd rybuddio bod disgwyl gwyntoedd o hyd at 100 mya ar Fôr Iwerddon.
Cafodd Pont Cleddau ei chau ac mae cyfyngiadau ar Bont Hafren (M48).
Mae'r tywydd wedi effeithio ar wasanaethau Arriva a First Great Western.
Mae ysgolion wedi cau ym Môn,Gwynedd, a Sir Benfro.
Yng Ngheredigion mae Ysgol Gyfun Aberaeron ac Ysgol Penglais ac Ysgol Penweddig yn Aberystwyth wedi cau.
Hefyd mae Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul ac ysgolion cynradd T Llew Jones (Synod Inn), Penparc ger Aberteifi a Bro Sion Cwilt ym Mrynhoffnant wedi cau.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod adroddiadau fod darnau o do wedi chwythu oddi ar adeiladau yn Aberteifi, Aberystwyth, Sir Benfro, Ystradgynlais a Llanelli.
"Mae diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig," meddai llefarydd.
"Rydyn ni wedi penderfynu cau Heol Fawr Aberteifi oherwydd perygl llechi'n cwympo.
"Dylai pawb gadw draw o'r llefydd hyn ac aros gartre.
"Ein cyngor ni yw na ddylai neb gerdded neu gysgodi ger adeiladau neu goed."
Dywedodd yr heddlu yng Ngheredigion na ddylai neb deithio yn y sir oni bai bod y daith yn hanfodol.
Roedd nifer o ffyrdd ar gau, meddai llefarydd.
Dywedodd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor y dylai staff a myfyrwyr adael y campws yn gynnar.
Parc gwledig
Yn Aberystwyth roedd y gwasanaeth llyfrgell yn cau am 3.30pm ac adeiladau, y ganolfan gelfyddydau a'r ganolfan chwaraeon am 4pm.
Yn Sir Gâr cafodd Parc Gwledig Penbre a Llyn Llech Owain ger Cross Hands eu cau ac Ysgol Llandeilo.
Cafodd Heol y Bont, Cydweli, ei chau a'r A484 ger Cylchfan Trostre yn Llanelli ac roedd yr A40 ger Pensarn ei chau am fod cebl ar y ffordd.
Roedd yr M4 ar Bont Llansawel ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd y gwyntoedd a thraffig yn ciwio am sawl milltir.
Yn Heol y Porth, Caerdydd, cafodd dyn ei anafu wedi i arwydd gwympo yn y gwynt.
Mae manylion rhybuddion llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd cwmni Western Power fod 6,300 o gartrefi heb gyflenwad trydan a'r ardaloedd gwaethaf oedd Aberhonddu, Casgwent, Trefynwy, Brynbuga, Pont-y-pŵl, Abertawe a Hwlffordd.
Mae Scottish Power wedi dweud bod 10,000 o gartrefi heb gyflenwad yn y gogledd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2014