Stoke 1 - 1 Abertawe

Chico Flores beniodd heibio Asmir Begovic yn yr ail hanner Image copyright Getty Images
Image caption Chico Flores beniodd heibio Asmir Begovic yn yr ail hanner

Mae Abertawe wedi cipio pwynt yn erbyn Stoke ar noson wyntog yn Stadiwm Britannia nos Fercher.

Roedd amheuaeth a fyddai'r gêm yn mynd yn ei blaen oherwydd y tywydd garw, a chafodd y gic gyntaf ei gohirio am 15 munud.

Stoke ddechreuodd gryfaf, gyda Charlie Adam yn mynd yn agos at rwydo ar ôl 10 munud.

Aethon nhw ar y blaen o fewn 20 munud o chwarae drwy Peter Crouch, saethodd i'r rhwyd ar ôl i Peter Odemwingie daro'r postyn.

Gallai Stoke fod wedi sgorio eto yn fuan wedyn oni bai i Vorm arbed ergyd Marko Arnautovic.

Cafodd Dyer gyfle i ddod â'r Elyrch yn gyfartal yn fuan cyn yr egwyl, ond doedd o'n methu manteisio.

Daeth yr Elyrch allan yn gryfach yn yr ail hanner, a llwyddon nhw i gipio pwynt yn fuan wedi'r egwyl.

Chico Flores beniodd croesiad Pablo Hernandez heibio Asmir Begovic ar ôl 52 munud.

Mae'r pwynt yn symud Abertawe i'r 10fed safle, uwchben West Ham ar gyfanswm goliau, a phwynt yn unig o flaen Stoke sydd yn y 14eg safle.

Stoke 1 - 1 Abertawe

Stoke: Begovic, Cameron, Pieters, Whelan, Shawcross, Wilson, Walters, Crouch, Adam, Odemwingie, Arnautovic

Abertawe: Vorm, Rangel, Davies, Canas, Chico, Williams, Dyer, Britton, Bony, Hernandez, Routledge

Straeon perthnasol