Gweinidog Swyddfa Cymru'n rhybuddio Llywodraeth Cymru

Canolfan Waith Image copyright bbc
Image caption Mae Stephen Crabb yn dadlau fod Cymru angen newidiadau i'r system les cymaint â gweddill y DU

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd i beidio ag "anwybyddu cyfle i ddiwygio'r system les".

Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd dywedodd un o weinidogion Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, fod y newidiadau'n gyfle i "dorri'r cylch o ddibyniaeth".

Mae'r cynlluniau'n cynnwys ailasesu pobl ar fudd-dal salwch tymor hir ac uno rhai taliadau i wneud un taliad rheolaidd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r newidiadau yn "taro rhai o bobl fwya' bregus Cymru".

Eisoes mae gweinidogion Bae Caerdydd wedi dadlau bod y newidiadau'n annheg ac wedi honni y bydd Cymru'n diodde' yn waeth na rhannau eraill o'r DU.

Dywedodd Mr Crabb fod hwn yn "gyfle unigryw ... i ddod â gwir bwrpas a gwerth yn ôl i'r system les."

Galwodd ar awdurdodau lleol, llywodraethau Cymru a'r DU i gydweithio "tuag at yr un amcan o annog adferiad economaidd ein cenedl," gan rybuddio na ddylai Llywodraeth Cymru "anwybyddu'r" cyfle i ddiwygio'r system.

'Trasiedi'

Cyn y gynhadledd dywedodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro: "Pan mae mwy nag erioed o bobl yn gweithio heddiw, mae yna oddeutu 200,000 o bobl yma yng Nghymru sy'n dal heb weithio diwrnod yn eu bywydau - mae hynny'n drasiedi i bob un o'r unigolion hynny ac mae'n drasiedi i'n cenedl ni.

"Mae angen i wlad fechan fel Cymru wneud y gorau o bob owns o sgil, talent a photensial sydd gennym."

Mewn cyfweliad â BBC Radio Wales, dywedodd Mr Crabb: "Cwta flwyddyn yn ôl roedd un o weinidogion Cymru'n disgrifio ein newidiadau i'r system les fel 'erchyllter cymdeithasol', gan ddefnyddio iaith gref.

"A'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud a'r hyn ry'n ni'n ei weld yw taclo cymunedau yng Nghymru ble mae 'na genhedlaethau o ddiweithdra erbyn hyn, rhoi cyfle i bobl sydd heb waith ers cyfnod hir fynd yn ôl i'r byd gwaith."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim yn erbyn diwygio'r system les mewn egwyddor ond mae Llywodraeth y DU yn taro rhai o bobl fwya' bregus Cymru ar yr union adeg maen nhw'n cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd.

"Er gwaetha'r toriadau i'n cyllideb, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai mwya' difreintiedig gyda'r newidiadau hyn a chreu cyfleoedd am swyddi."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.