Trywanu yng Nghaerdydd: cyhuddo dyn
- Published
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn wedi ymosodiad yng Nghaerdydd ddiwedd Tachwedd 2013.
Brynhawn Iau fe gafodd Ryszard Edward Tomala, 25 oed, ei gyhuddo o ymosod, gan achosi niwed corfforol gwirioneddol a dau gyhuddiad o glwyfo'n fwriadol.
Mae wedi ei gadw'n y ddalfa tan Chwefror 27, dyddiad ei wrandawiad nesaf yn Llys Ynadon Caerdydd.
Ymosod
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 1pm brynhawn Gwener, Tachwedd 29, wedi adroddiadau bod rhywun wedi ymosod ar ddynes ar Ffordd Allensbank a bod ganddi anaf i'w gwddf.
Funudau wedyn daeth galwad arall bod rhywun wedi ymosod ar ddyn ar Stryd Tewkesbury gerllaw.
Cafodd heddlu arfog eu galw a chafodd y dyn ei arestio ar Stryd Dalton lle daeth plismyn o hyd i gyllell.
Roedd ffyrdd ar gau tra bod yr heddlu'n cynnal archwiliadau fforensig.
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Rhagfyr 2013
- Published
- 29 Tachwedd 2013