BBC Cymru Fyw

Clybiau chwaraeon Sir Gaerfyrddin yn pryderu

Published
image captionMae costau'n cynyddu i grwpiau chwaraeon
Mae clybiau chwaraeon yn Sir Gâr yn pryderu na fydd modd iddynt barhau oherwydd costau cynyddol.
Mae clybiau sy'n defnyddio caeau a thir sy'n eiddo i'r cyngor wedi clywed bod y rhent maen nhw'n dalu yn mynd i godi, sy'n achosi iddyn nhw bryderu am y dyfodol.
Mewn datganiad dywedodd Clwb Rygbi y Tymbl eu bod yn wynebu'r "her fwyaf yn ein hanes" a'u bod yn gorfod ystyried y posibiliad o orfod rhoi'r gorau iddi ar ôl 120 o flynyddoedd.
Dywedodd Steve Lewis, un o swyddogion y clwb, ar raglen Taro ar Radio Cymru: "Ni yn becso i fod yn onest.
"Cawson ni sawl cyfarfod i dreial penderfynu beth fydd dyfodol y clwb."
Yn ôl ffigyrau darparwyd gan y clwb bydd y gost o logi cae Parc y Mynydd Mawr yn codi o £49 y gêm i £235 y gêm.
Yn ogystal byddai sesiynau ar gyfer hyfforddi yn codi o £29 i £140, ac ar gyfer timau iau yn codi o £23 y sesiwn i £95 y sesiwn.
Dros flwyddyn byddai costau i'r clwb cynyddu o £920 i £3800.
Dywedodd Mr Lewis eu bod yn pryderu am ddyfodol rygbi i blant yn y sir.
Byddai'r newidiadau hefyd yn effeithio ar dimau criced, pêl-droed a bowls sydd yn defnyddio caeau'r cyngor.

'Dychrynllyd'

Mewn sgwrs ar raglen Taro Post dywedodd Gwylon Jones o Glwb Bowls Dafen yn Llanelli bod y newidiadau yn effeithio'n fwy ar glybiau bowls gan nad oedd ganddynt gymaint o aelodau.
Yn ôl ffigyrau a ddarparwyd gan Mr Jones y llynedd roedd aelod o'r clwb sy'n gweithio yn talu £102 y flwyddyn ond ymhen dwy flynedd gallai'r swm yna gynyddu i £322.
"Mae'n arian dychrynllyd i gael gafael ynddo," meddai Mr Jones.
"Mae'n olreit i ddweud i gael grantiau a phethau fel yna ond os yw pawb yn mynd i'r un pot dyw e ddim yn mynd i bara'n hir."
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod yn cefnogi chwaraeon ar bob lefel yn y sir, ac mai'r nod yw gwneud pethau'n decach i bawb.
Er mwyn cyflawni hyn dywedodd y cyngor bod trosglwyddo asedau megis parciau a mannau chwarae yn rhoi mwy o lais a mwy o rôl o fewn gwasanaethau lleol i bobl leol, a gallai hyn gael "effaith gadarnhaol".
Y dewis arall, yn ôl y cyngor, yw i sefydliadau lleol barhau i rentu cyfleusterau gan y cyngor ond gan dalu'r "gwir gostau" sydd ynghlwm wrth hynny.

Straeon perthnasol

  • Gwrthblaid yn beirniadu cynllun £14.5m Cyngor Caerffili