9 pwynt am gau Pont Britannia
- Cyhoeddwyd

Mae'r dyn oedd yn gyrru'r lori wnaeth droi ar ei hochr ar Bont Britannia brynhawn dydd Mercher wedi cael dirwy o £335 a naw pwynt ar ei drwydded.
Roedd rhaid cau'r bont am 17 awr gan achosi tagfeydd a phroblemau mawr i lawer.
Clywodd Llys yr Ynadon Caernarfon fod Igor Kolarik, 51, wedi gwrthdaro â fan oedd yn gyrru i'r cyfeiriad arall.
Roedd wedi ei gyhuddo o yrru'n ddiofal, gan fod rhybudd mewn grym yn gwahardd cerbydau uchel rhag teithio ar y bont
Fe blediodd Kolarik yn euog.
Dywedodd cyfreithiwr Kolarik, Dafydd Tudur, bod ei gleient yn derbyn ei fod wedi gwneud penderfyniad "trychinebus o wael", ond nad oedd wedi anwybyddu'r arwyddion yn arwyddion.
Wedi drysu oedd Kolarik, yn ôl Mr Tudur.
Dywedodd cadeirydd y llys David Llewellyn Jones bod yr ynadon wedi cymryd ple cynnar Kolarik a'i edifeirwch i ystyriaeth wrth wneud eu penderfyniad.
Er hynny, roedd hwn yn achos "difrifol iawn" o yrru'n ddiofal, meddai, er gwaetha'r ffaith bod yr amodau gyrru'n rhai eithriadol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing - oedd yn arwain ymgyrch y gwasanaethau brys yn ystod y tywydd garw: "Roedd dewis Kolarik yn hollol ddifeddwl... A dim ond lwc rwystrodd anafiadau difrifol, neu waeth."
Ychwanegodd: "Roedd amodau'r tywydd a theithio ddydd Mercher yn erchyll, a'n blaenoriaeth ni oedd diogelu bywydau a gwneud yn siwr bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.
"Drwy anwybyddu'r rhybuddion fe roddodd ei fywyd ei hun ac eraill mewn perygl, ac mae ei ymddygiad yn dangos mor beryg yw peidio â dilyn cyngor yr arbenigwyr.
"Yn ogystal, achosodd ei weithred dagfeydd sylweddol a phroblemau mawr i gannoedd o yrrwyr a phobl leol... A hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hamynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2014