Gwahardd athro am oes
- Cyhoeddwyd

Mae athro cynradd oedd gan luniau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur wedi cael ei wahardd rhag dysgu am oes.
Clywodd gwrandawiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CynACC) fod Simon Goodwin Williams yn dysgu yn Ysgol Gynradd Gendros yn Abertawe cyn iddo ymddiswyddo yn 2011.
Fe roddodd Mr Williams y gorau i'w swydd tra'r oedd yn aros i ymddangos yn Llys y Goron Abertawe wedi ei gyhuddo o lawrlwytho delweddau anweddus o blant.
Er iddo dderbyn bod 295 o ddelweddau anghyfreithlon ar ei gyfrifiadur, dywedodd nad oedd o'n gwybod eu bod nhw yno - ac y gallai firws neu dudalennau 'pop-up' fod ar fai.
Fe gafodd ei ganfod yn ddieuog gan y rheithgor yn yr achos.
Ymchwiliad annibynnol
Er i Mr Williams, cyn gydlynudd technoleg gwybodaeth yr ysgol, gael ei ganfod yn ddieuog o unrhyw drosedd, penderfynodd CynACC gynnal ymchwiliad annibynnol i'r mater.
Penderfynodd y panel yng Nghaerdydd fod Mr Goodwin Williams, "yn ôl pob tebyg" wedi edrych ar ddelweddau anweddus o blant mor ifanc â "naw neu 10" oed yn "fwriadol".
Dywedodd cyflwynydd yr achos, Louise Bryl, fod y dystiolaeth yn erbyn Mr Goodwin Williams yn "eithriadol o gryf".
Fe gadarnhaodd prifathro'r ysgol, Dean Phillips, fod Mr Goodwin Williams yn hyfforddwr technoleg gwybodaeth mewn canolfan addysg gyfrifiadurol ym Maglan yn ystod 2002 a 2003.
Ychwanegodd ei fod wedi mynd ar lawer o gyrsiau technoleg gwybodaeth ac yn gallu "datrys" problemau technegol.
Clywodd y panel y byddai'r ysgol wedi diswyddo Mr Goodwin Williams pe na bai o wedi ymddiswyddo fis Rhagfyr 2011, gan ei fod o wedi "dwyn gwarth" ar yr ysgol.
Doedd Mr Goodwin Williams ddim yn y gwrandawiad yng Nghaerdydd.
Datganiad
Mewn datganiad ar ei ran, dywedodd ei gynrychiolydd o NUT Cymru, Gareth Lloyd ei fod o'n parhau i fynnu ei fod o'n ddiniwed.
Yn y datganiad, dywedodd Mr Goodwin Williams: "Rwy'n gwadu fy mod i wedi lawrlwytho'r delweddau hyn yn fwriadol, neu o'm gwirfodd.
"Rwyf wedi cael fy rhoi drwy ddau achos llys... Yn yr ail, cefais fy nghanfod yn ddieuog o bob cyhuddiad."
Ychwanegodd nad oedd yn cytuno gyda penderfyniad y cyngor i fwrw 'mlaen gyda'r gwrandawiad, o ystyried fod "llys uwch" wedi ei gael yn ddieuog.
Eglurodd ei fod o wedi dewis cadw draw o'r gwrandawiad oherwydd y "trawma a'r straen" oedd o wedi ei brofi.
Er hyn, dywedodd cadeirydd y panel, Jacquie Turnbull ei bod hi'n credu ei fod o'n euog o bedwar allan o bum cyhuddiad.
'Cwbl annerbyniol'
Ychwanegodd Ms Turnbull: "Er i Mr Goodwin Williams ddweud ei fod o wedi gweld y lluniau ar hap, dydyn ni ddim yn derbyn hynny.
"Roedd ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol fel athro cofrestredig.
"Roedd hyn mor ddifrifol, na ddylai o gael yr hawl (i wneud cais i fod yn athro eto).
"Fe fydd o'n cael ei rwystro rhag dysgu am oes."
Mae gan Mr Goodwin Williams 28 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.