Gwrthdrawiad Trefynwy: Heddlu'n apelio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhrefynwy lle gyrrodd un gyrrwr i ffwrdd o'r safle.
Fe gafodd yr heddlu eu galw toc wedi canol dydd i safle'r gwrthdrawiad ar yr A40 ger twneli Gibraltar yn Nhrefynwy.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd - Ford Fiesta neu Focus du, oedd yn cael ei yrru gan ddyn y credir ei fod rhwng 20-30 oed, a Vauxhall Agila gwyrdd, yn cael ei yrru gan ddyn yn ei bumdegau, gyda gwraig yn teithio yn y sedd flaen a dau o blant, 7 ac 14 oed, yn eistedd yn y cefn.
Yn sgil y gwrthdrawiad, fe adawodd y Vauxhall Agila y ffordd a disgyn i lawr llethr a tharo i mewn i goed.
Ni stopiodd gyrrwr y cerbyd Ford ac fe gafodd ei weld ddiwethaf yn troi i'r chwith wrth y goleuadau traffig, i mewn i Drefynwy.
Mae'r gyrrwr a'r plant oedd yn y Vauxhall wedi'u cludo i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni gydag anafiadau bychain.
Ond fe gludwyd y wraig, oedd yn teithio yn yr un car, i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau difrifol i'w choesau.
Mae'r A40 i gyfeiriad y gogledd wedi ei gau am y tro tra bod y cerbyd yn cael ei symud ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Mae gofyn i unrhywun welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth am yrrwr y cerbyd Ford du ffonio 101 gan roi'r cyfeirnod 300 15/02/14.