Hartlepool 3 - 0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
casnewydd - hartlepool
Disgrifiad o’r llun,
Mae Casnewydd wedi disgyn i'r 10fed safle wedi'r golled

Symudodd Hartlepool i fyny yn Adran 2 gyda buddugoliaeth sicr dros Gasnewydd o 3-0.

Casnewydd oedd yn rheoli'r hanner cyntaf ondaeth Hartlepool y blaen wedi i ergyd Luke James o ochr y cwrt cosbi hedfan heibio Elliot Parish yn y gol.

Aeth y tîm cartref ddwy ar y blaen pan roddodd Andy Sandell y bêl yn ei rwyd ei hun yn dilyn cic gornel gan Simon Walton.

Manteisiodd Luke Williams ar amddiffyn gwael i sgorio'r drydedd gôl mewn amser ychwanegol.

Mae tîm Colin Cooper rwan yn yr wythfed safle yn Adran Dau y gynghrair tra bod Casnewydd, sydd wedi colli chwe gêm yn olynol, yn llithro i'r degfed safle.

Hartlepool 3 - 0 Casnewydd

Hartlepool: Flinders, Richards, Holden, Monkhouse, Collins, Burgess, Walton, Walker, James, Harewood, Williams

Casnewydd: Parish, Pipe, Willmott, Jeffers, Chapman, Minshull, Sandell, Burge, Howe, Worley, Naylor