Ymgynghori ar beilonau trydan Coedwig Brechfa
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfle i bobl Sir Gaerfyrddin roi eu barn ar lwybr gwifrau trydan newydd yn yr ardal, wrth i ymgynghoriad gael ei lansio.
Mae cwmni Western Power Distribution am osod peilonau i gysylltu tyrbinau gwynt sy'n cael eu cynnig yng nghoedwig Brechfa, gyda'r rhwydwaith drydan.
Ddydd Llun, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar y cynlluniau, wrth i'r cwmni ofyn am farn pobl leol ar lwybrau posib y gwifrau.
Cwmni RWE Npower sy'n gyfrifol am y fferm wynt, maen nhw'n honni y bydd yn creu digon o drydan ar gyfer 40,000 o gartrefi.
Barn leol
Cafodd y safle yng Nghoedwig Brechfa, fydd â 28 o dyrbinau, ei gymeradwyo gan y Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd, Greg Barker, yn 2013.
Bydd pob un o'r tyrbinau yn 145 metr o uchder, ac mae'r datblygwyr, RWE Npower, yn disgwyl i'r datblygiad greu digon o ynni ar gyfer bron i 40,000 o gartrefi.
Maen nhw hefyd yn honni y bydd yn creu swyddi ac yn cyfrannu at yr economi leol.
Ond, mae'r cynlluniau wedi denu peth gwrthwynebiad gan rhai pobl a busnesau lleol.
Mae rhai yn poeni y bydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl leol, yn ogystal ag ecoleg a thwristiaeth yr ardal.
Bydd yr ymgynghoriad yn para wyth wythnos, ac yn cynnwys nifer o arddangosfeydd cyhoeddus.
'Cyfle pwysig'
Dywedodd Andrew Hubbold o Western Power Distribution: "Mae'r ymgynghoriad yma yn gyfle pwysig i bobl roi eu barn am y cynlluniau ac i fod yn rhan o'r broses cynllunio.
"Wrth ddatblygu'r cynlluniau rydym wedi sicrhau bod barn ac arbenigedd lleol aelodau'r gymuned yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses, yn ogystal â'n arbenigwyr amgylcheddol a pheirianyddol.
"Rydw i'n edrych ymlaen at gael clywed barn pobl am y cynlluniau."
Dyma'r ail ran o'r ymgynghoriad, wedi i'r cyntaf ofyn am wybodaeth gan Aelodau Seneddol, Aelodau cynulliad a chynghorwyr lleol.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad diweddaraf yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad yn ddiweddarach eleni.
Bydd y llwybr sy'n cael ei ffafrio yn cael ei gyhoeddi yn yr haf, cyn i'r cwmni wneud cais am ganiatâd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2014