Tymor olaf Huw Llywelyn Davies?

  • Cyhoeddwyd
Huw Llywelyn Davies
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Huw Llywelyn Davies y gall y tymor hwn fod ei olaf oherwydd ansicrwydd rygbi Cymru

Mae'r darlledwr a'r sylwebydd rygbi, Huw Llywelyn Davies wedi dweud y gall y tymor hwn fod ei olaf fel sylwebydd.

Wrth nesáu at ei ben-blwydd yn 69 oed, dywedodd y gall yr holl ansicrwydd sydd o amgylch rygbi Cymru ar hyn o bryd olygu mai dyma ei dymor olaf y tu ôl i'r meicroffon.

Yn siarad ar raglen Dewi Llwyd fore Sul, dywedodd: "Falle nid fy mhenderfyniad i fydd hwnnw.

"Dyw hi ddim yn amhosib taw hwn fydd y tymor diwethaf y tu ôl i'r meic."

Mae sefyllfa rygbi proffesiynol yng Nghymru yn ansicr oherwydd dadlau rhwng y rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru am ba gystadleuaeth y dylai'r timau gystadlu ynddyn nhw.

Yn rhan o hynny, does dim sicrwydd ar ba sianeli fydd yn darlledu'r gemau.

"Pwy a ŵyr be sy'n digwydd i rygbi Cymru, heb sôn am ddyfodol ryw sylwebydd fel fi," meddai.

"Does neb yn gwybod pa gystadlaethau fydd flwyddyn nesa', pa gwmnïau teledu fydd yn eu darlledu nhw.

Ansicrwydd

"Hyd yn oed pe bai pethau'n parhau gyda'r Rabo (Pro12) fel y mae hi, fydd Sky yn darlledu prif gêm y penwythnos, felly mae hynny'n mynd i olygu newid pethau'n S4C, ac o bosib taw dyna'r amser pan mae ishe newid sylwebydd hefyd.

"Pwy a ŵyr am hynny, mae cymhlethdod rygbi Cymru ar hyn o bryd... mae'n mynd o ddrwg i waeth fel y gwela' i."

Dywedodd y byddai cael mynd i gemau fel gwyliwr yn hytrach na sylwebydd yn brofiad newydd, yn debyg iawn i'r profiad o gael mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd.

Mae Mr Davies yn un o wynebau, a lleisiau, mwyaf adnabyddus Cymru, wedi iddo ddarlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol am dros 30 o flynyddoedd.

Ond wedi iddo ymddeol o'r swydd honno yn 2012, dywedodd bod cael mynychu'r brifwyl y llynedd yn brofiad gwahanol iawn.

"Dyna'r tro cyntaf ers 1974 i fi fynd i'r Eisteddfod a dim darlledu.

"Odd dyn yn gweld ishe darlledu wrth gwrs, ond odd e'n rhoi cyfle i fi fynd i'r Eisteddfod a siarad â phobl ar y maes."

Mae rhaglen Dewi Llwyd i'w chlywed yma.

Hefyd gan y BBC