Teyrnged i ddynes feichiog a'i babi
- Cyhoeddwyd

Roedd disgwyl i ddynes feichiog fu farw wedi gwrthdrawiad ar Ffordd Pen y Cymoedd nos Wener roi geni i'w merch mewn pythefnos, yn ôl ei phartner.
Roedd Sophie Williams, 20, o Dredegar ym Mlaenau Gwent a Ben Morgan yn dychwelyd o noswaith allan pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Bu farw Ms Williams a'i babi yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni wedi'r gwrthdrawiad rhwng Brynmawr a Garnlydan.
Dywedodd Mr Morgan, hefyd o Dredegar, bod y cwpl yn disgwyl merch, a'u bod nhw wedi ei henwi hi'n Kayleigh yn barod.
Roedd y cwpl wedi dyweddïo, ac yn bwriadu priodi ar ol genedigaeth eu merch.
Dywedodd: "Gallai ddim credu'r peth - roedden ni mor hapus ac yn edrych ymlaen at enedigaeth ein babi mewn cwpl o wythnosau.
"Mae popeth dwi'n ei garu wedi diflannu mewn eiliadau."
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 11:00yh nos Wener.
Ni chafodd Mr Morgan, a gyrrwr y car arall, dyn o Basingstoke yn Hampshire, eu hanafu, ond maent yn dioddef o sioc.
Mae Mr Morgan wedi dychwelyd i safle'r gwrthdrawiad i osod blodau.
Nid oedd teulu Ms Williams am wneud sylw, ond dywedodd llefarydd ar eu rhan nad oedd geiriau i ddisgrifio eu poen.
"Rydyn ni wedi colli Sophie a'i babi - mae'n ormod i gymryd."
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio i unrhywun a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi'r cyfeirnod 544 14/02/14.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2014