BBC Cymru Fyw

Achub dyn wedi eirlithrad ar y Wyddfa

Published
image captionRoedd dros 30 o aelodau o'r tîm achub yn rhan o'r digwyddiad
Roedd rhaid i Dim Achub Mynydd Llanberis achub dyn oedd wedi cael ei daro'n anymwybodol ar yr Wyddfa ddydd Sadwrn.
Cafodd y dyn a'i bartner ei sgubo 1,000 troedfedd (305m) i lawr y mynydd gan eirlithrad.
Cafodd ei ddarganfod gan y tîm achub wedi ei gladdu mewn 4 troedfedd o eira.
Cafodd y dyn 28 oed o Fryste ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty ym Mangor.
Roedd dros 30 o aelodau o'r tîm achub yn rhan o'r digwyddiad, gan gynnwys rhai o dîm Aberglaslyn.
image captionCafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd
Cafodd y dyn ei daro yn anymwybodol am tua 15 munud, a dywedodd ei fod yn dioddef o boen yn ei gefn.
Cafodd ei gario i lawr y mynydd, lle roedd hofrennydd yn aros amdano.
Roedd chwech o bobl eraill hefyd wedi cael eu heffeithio gan yr eirlithrad, ond ni chawson nhw anafiadau.

Straeon perthnasol

  • Dyn yn 'lwcus iawn' wedi cwymp ar yr Wyddfa