Sŵnami a Candelas yn ennill Gwobrau'r Selar

  • Cyhoeddwyd
Sŵnami
Disgrifiad o’r llun,
Enillodd Sŵnami ddwy wobr yn y seremoni nos Sadwrn

Candelas oedd prif enillwyr Gwobrau'r Selar nos Sadwrn, gan gipio tair gwobr mewn seremoni yn Aberystwyth.

Y band o Lanuwchllyn daeth i'r brig yng nghategorïau'r Cân Orau, Record Hir Orau a Band Gorau.

Enillodd Sŵnami wobr am y Record Fer Orau, a nhw hefyd enillodd y wobr newydd am y Fideo Orau, a hynny am eu fideo i'r gan 'Gwreiddiau'.

Ymysg yr enillwyr eraill oedd Georgia Ruth Williams yng nghategori'r Artist Unigol Orau, a Kizzy Crawford, ddaeth i'r brig yng nghategori'r Band neu Artist Unigol Orau.

Roedd 500 o bobl yn y seremoni yn Neuadd Fawr Aberystwyth i ymuno yn y dathlu.

Dywedodd uwch olygydd Y Selar, Owain Schiavone: "Roedd yn gadarnhaol iawn fod cymaint o bobl yn awyddus i ymuno â'r dathliad.

"Ro'n i wrth fy modd i weld bysus yn cael eu trefnu o Fangor, Caerdydd, y Bala a Chaerfyrddin a phobl ifanc yn gwneud ymdrech gwirioneddol i ddod i ddigwyddiad fel hwn."

Dywedodd golygydd y cylchgrawn, Gwilym Dwyfor, bod y gwobrau wedi cydnabod gwaith caled bandiau Cymraeg eleni.

"Mae'r gwobrau'n dangos fod gwaith caled yn talu i artistiaid Cymraeg," meddai.

"Heb os yr artistiaid mwyaf gweithgar sydd wedi blasu llwyddiant eleni gyda Candelas a Sŵnami'n gigio'n rheolaidd iawn, a'r un peth yn wir am artistiaid fel Georgia a Kizzy.

"Wrth gwrs mae'n help eu bod nhw hefyd wedi rhyddhau cynnyrch hynod o wych yn 2013 hefyd!"

Rhestr enillwyr:

Record Hir Orau: Candelas

Record Fer Orau: Du a Gwyn - Sŵnami

Cân Orau: Anifail - Candelas

Hyrwyddwr Gorau: Nyth

Gwaith Celf Gorau: Llithro - Yr Ods

Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym

Artist Unigol Gorau: Georgia Ruth Williams

Band neu Artist Newydd Gorau: Kizzy Crawford

Digwyddiad Byw Gorau: Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych

Band Gorau: Candelas

Fideo Cerddoriaeth Gorau: Gwreiddiau - Sŵnami (Cyfarwyddwr - Osian Williams)