Everton 3 - 1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Roedd rhaid i Everton weithio'n galed i guro Abertawe a chyrraedd wyth olaf y Cwpan FA ym Mharc Goodison ddydd Sul.
Roedd Garry Monk wedi newid wyth o'r chwaraewyr o'r tîm chwaraeodd Stoke ganol wythnos, ond er pwysau cynnar gan Abertawe, Everton aeth ar y blaen o fewn pum munud.
Lacina Traore, yn chwarae ei gêm gyntaf i Everton ar fenthyg o Monaco, yn rhwydo o groesiad Sylvain Distin i roi dechrau perffaith i'r Toffees.
Ond daeth yr Elyrch yn ôl yn sydyn wrth i Neil Taylor groesi yn berffaith i Jonathan de Guzman benio heibio Robles yn y gôl.
Cafodd Everton nifer o gyfleoedd i fynd ar y blaen eto cyn yr egwyl, gyda Pienaar a Traore yn mynd yn agos.
Eilydd Everton, Steven Naismith newidiodd y gêm, gan fanteisio ar gamgymeriad Neil Taylor i roi tîm Roberto Martinez ar y blaen eto.
Ceisiodd Taylor basio yn ôl i'r golwr, Gerhard Tremmel, ond neidiodd Naismith ar y cyfle a saethodd y bêl o dan Tremmel.
Roedd Naismith hefyd yn rhan o'r drydydd, wrth iddo gael ei daclo yn y cwrt cosbi gan Ashley Richards.
Leighton Baines rwydodd o'r gic o'r smotyn.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Martinez yn dal i fod hefo cyfle i ennill y gystadleuaeth am ddwy flynedd yn olynol, wedi iddo symud o Wigan i Everton yn yr haf.
Everton 3 -1 Abertawe
Everton: Robles, Coleman, Jagielka, Distin, Baines, McCarthy, Barry, Mirallas, Barkley, Pienaar, Traore
Eilyddion: Hibbert, McGeady, Deulofeu, Naismith, Osman, Howard, Stones.
Abertawe: Tremmel, Richards, Bartley, Amat, Taylor, Canas, de Guzman, Hernandez, Routledge, Lamah, Vazquez
Eilyddion: Vorm, Williams, Britton, Bony, Dyer, Lita, Tiendalli.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2014