Ffrae cyflogau yn y Goruchaf Lys

  • Cyhoeddwyd
Amaeth
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ei ddirwyn i ben y llynedd

Mae'r Goruchaf Lys wedi clywed manylion ffrae am gyflogau ffermwyr yng Nghymru.

Cafodd deddf ei phasio gan Aelodau Cynulliad y llynedd i osod isafswm cyflog ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.

Ond cafodd ei wrthod gan y Twrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, oedd yn dweud nad oedd gan y Cynulliad y pŵer i wneud hynny.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara am ddau ddiwrnod.

Cafodd y mesur ei basio gan ACau wedi i'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol - oedd yn gosod lefelau tâl yng Nghymru a Lloegr - ddirwyn i ben.

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu byrddau eu hunain.

Roedd Llywodraeth Cymru yn erbyn dileu'r bwrdd ond dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd yn fater oedd wedi ei ddatganoli.

Gwrthwynebiad

Ym mis Awst ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol i'r Cynulliad yn mynegi ei wrthwynebiad.

"Nid ydw i'n credu bod y mesur o fewn cymhwysedd y Cynulliad ac felly rydw i wedi penderfynu ei gyfeirio at y Goruchaf Lys," meddai.

"Rydw i'n gobeithio y bydd y cyfeirio yma yn rhoi eglurder am y cwestiynau pwysig sydd yna am gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol."

Mewn ymateb fe wnaeth Llywodraeth Cymru amddiffyn y ddeddf, gan ddweud y byddai'n "annog ymgeiswyr newydd yn y diwydiant amaethyddol ac yn helpu'r sector i wella a chadw sgiliau pwysig er mwyn sicrhau ffyniant yn y dyfodol".

Tra oedd Undeb Amaethwyr Cymru yn honni bod y bwrdd yn "angenrheidiol" roedd yr NFU yn dweud ei fod "wedi heneiddio ac yn ddiangen".