John ac Alun yw'r prif atyniad
- Cyhoeddwyd

Mae Gŵyl Canu Gwlad y Faenol wedi cyhoeddi mai'r prif atyniad yn 2014 fydd John ac Alun.
Mae'r ddeuawd o Ben Llŷn yn ddarlledwyr poblogaidd ar BBC Radio Cymru, ac maen nhw wedi cynhyrchu cyfres o recordiau llwyddiannus dros y blynyddoedd.
Dywedodd Myfyr Jones, perchennog Stad y Faenol: "Y llynedd oedd yr ŵyl gyntaf a bu'n llwyddiannus tu hwnt gyda Iona ac Andy yn brif atyniad.
"Er bod mwyafrif yr artistiaid eleni yn sêr canu gwlad ymhlith y goreuon ym Mhrydain, mae'n bwysig iawn i Ŵyl fel hon yng Nghymru roi llwyfan i'n prif artistiaid canu gwlad Cymreig."
Ymysg yr artistiaid eraill fydd yn perfformio yn yr Ŵyl yn 2014 mae enillwyr un o brif wobrau cerddoriaeth Prydain y John Smith Band, a'r gantores Nancy Ann Lees.
Daw cefnogaeth hefyd gan Richard Palmer, Mel Paul a Mary Lacey, Fools Gold, John Taylor Band, Calico, Picassos a John Parmenter a chyflwynydd yr Ŵyl fydd hefyd yn perfformio, Dave Cash.
Unwaith eto eleni bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal mewn pabell fawr wedi'i gwresogi, ac mae lle i 1,000 o bobl ynddi ar dir Stad y Faenol ger Bangor.
Bydd yr Ŵyl yn digwydd rhwng Mehefin 12-15 yn hytrach na mis Medi fel yn 2013, ac fe fydd maes gwersylla ar gael.
Mae manylion pellach i'w cael ar wefan Gŵyl Canu Gwlad y Faenol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2008