Ad-drefnu: Dim cytundeb cyn 2016?
- Published
Mae cytundeb ar draws y pleidiau ar ad-drefnu llywodraeth leol cyn etholiad nesaf yn Cynulliad yn annhebygol, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio cytuno ar fap o ffiniau cynghorau newydd erbyn yr haf fel y gall rhai awdurdodau ddechrau uno'n wirfoddol.
Mater i'r pleidiau eraill fyddai cynnig argymhellion am ddeddfwriaeth yn eu maniffestos ar gyfer Etholiadau 2016, meddai.
Ond "prin iawn" yw'r gobaith o basio deddf newydd cyn hynny, ychwanegodd.
Gwahaniaeth barn
Dywedodd Mr Jones bod "rhesymau da" pam y dylai Abertawe sefyll ar ei ben ei hun fel awdurdod ar wahân.
Mae rhai o'r newidiadau eraill yn bethau i'w trafod - er enghraifft a ddylid ailddechrau hen sir Dyfed drwy uno cynghorau Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Fis diwethaf fe wnaeth Comisiwn Williams argymell lleihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru o 22 i rwng 10 a 12.
Mae Carwyn Jones wedi bod yn cwrdd gydag arweinwyr y gwrthbleidiau i geisio sicrhau cytundeb ymysg y pleidiau am yr ad-drefnu.
Yn ei gynhadledd newyddion fisol yng Nghaerdydd, dywedodd bod gwahaniaeth barn gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol am y system bleidleisio, a gyda'r Ceidwadwyr am y ffiniau.
Ond dywedodd pe bai cytundeb am y map ar gyfer y cynghorau newydd arfaethedig yn barod cyn yr haf, yna fe allai cynghorau ddechrau uno'n wirfoddol.
Dywedodd: "Rwy'n credu y bydd rhai cynghorau sydd am uno yn gynnar a rhoi popeth yn ei le cyn y bydd deddf yn newid strwythur awdurdodau lleol.
"Wrth gwrs mae angen iddyn nhw wybod os ydyn nhw'n dechrau uno bod y map ddim yn mynd i newid.
"Felly mae cytuno ar siâp y map yn bwysig iawn rhwng y Pasg a'r haf."
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Chwefror 2014
- Published
- 31 Ionawr 2014
- Published
- 31 Ionawr 2014
- Published
- 20 Ionawr 2014
- Published
- 20 Ionawr 2014