Enwebiadau i'r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd wedi eu cyhoeddi

Y Gwyll
Image caption Richard Harrington sy'n chwarae rhan y Ditectif Arolygydd Tom Mathias yn Y Gwyll/Hinterland

Mae rhaglen sebon, drama ditectif ac un am salwch meddyliol ymysg yr enwebiadau sydd yn cystadlu am wobr yng Ngŵyl y Cyfryngau Geltaidd.

Bydd Rownd a Rownd, Y Gwyll a Lleisiau Ysbyty Dimbach ar Radio Cymru yn rhai o 23 o enwebiadau o Gymru fydd yn gobeithio derbyn y Y Dorch Efydd pan fydd yr Ŵyl yn St Ives, Cernyw, ddechrau mis Ebrill.

Mae'r ŵyl yn anrhydeddu ieithoedd a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar y sgrin, radio a chyfryngau digidol.

Cafodd dros 100 o raglenni 70 o gwmnïau cynhyrchu eu rhestru mewn 20 categori, sy'n cynnwys animeiddio, materion cyfoes, drama, adloniant, chwaraeon, rhaglenni ffeithiol. Derbyniodd y trefnwyr dros 400 o enwebiadau o Gymru, Cernyw, Yr Alban, Iwerddon, Ynys Manaw a Llydaw.

Gyda 12 o'u rhaglenni wedi ei henwebu, mae S4C yn edrych ymlaen at greu argraff yng Nghernyw.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: "Roedd amserlen y llynedd yn llawn cerrig milltir mewn gwahanol genre ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth eang o enwebiadau mae S4C wedi ei derbyn ar gyfer y gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd.

"Hoffwn longyfarch pob un o'r cynhyrchwyr a dderbyniodd enwebiadau - mae'n adlewyrchiad o'u creadigrwydd a'u hymdoddiad i greu gwaith o'r safon uchaf."

Bydd yr ŵyl hefyd yn rhoi Torch Aur i enillydd y wobr 'Ysbryd yr Ŵyl' ar gyfer ffilm neu raglen deledu sydd wedi ei gwneud yn gyfangwbl neu'n rhannol mewn iaith Geltaidd.

Dywedodd Cadeirydd yr Ŵyl, Pádhraic Ó Ciardha: "Mae safon ac amrywiaeth yr enwebiadau sydd wedi eu derbyn o'r holl fyd Celtaidd yn eithriadol.

"Yr ŵyl yma ydi'r un gyntaf yn y calendr a chyda'r rhestr fer o safon uchel yn ogystal â sesiynau cynhadledd yng nghanol ysblander Cernyw yn y gwanwyn, mi fydd yn un i edrych ymlaen ati."

Bydd yr ŵyl rhwng Ebrill 2 a 4, 2014.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.